
Cymru yn dod ynghyd ar gyfer Sul y Cofio
Cymru yn dod ynghyd ar gyfer Sul y Cofio
Mae Cymru wedi dod ynghyd ar gyfer digwyddiadau a gwasanaethau ar hyd a lled y wlad ar gyfer Sul y Cofio.
Roedd pobl wedi ymgasglu ger cofebion ac addoldai er mwyn cofio'r rhai fu farw mewn rhyfeloedd, ac roedd dau funud o dawelwch wedi cael ei gynnal am 11:00.
Roedd adrannau o'r Llynges Frenhinol, y Fyddin a'r Lluoedd Awyr wedi gorymdeithio heibio Neuadd y Ddinas tuag at y Gofeb Rhyfel Genedlaethol yng Ngerddi Alexandra ym mharc Cathays yng Nghaerdydd.
Roedd digwyddiadau wedi cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru hefyd, gan gynnwys Bryngwran, Rhuddlan a Chasnewydd.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, fod "y gwasanaeth cofio yn parhau i fod mor berthnasol ag erioed wrth i ddynion a merched o Gymru chwarae eu rhan yn gyson mewn dyletswyddau heddwch ar draws y byd.
"Rydym yn cofio'r cyfraniad diflino gan bawb a gollodd eu bywydau mewn gwrthdaro yn y gorffennol a'r presennol. Byddwn yn eu cofio.
"Mae'n bwysig i bobl gael y cyfle i ddod i feddwl am beth sy'n digwydd yn y byd."
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS, fod yn "rhaid rhoi sylw hefyd i'r rhai sy'n parhau i ddioddef o ganlyniad i wrthdaro ledled y byd.
"O’r rhai sy’n cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi o ganlyniad i wrthdaro dramor, i’r cyn-filwyr hynny yn agosach at adref sy’n cael trafferth gyda’r argyfwng costau byw presennol - yn rhy aml teimlir effeithiau rhyfel ymhell ar ôl i'r gwrthdaro ddod i ben."