Milwyr Wcráin yn cyrraedd canol dinas Kherson wedi i luoedd Rwsia ffoi
Milwyr Wcráin yn cyrraedd canol dinas Kherson wedi i luoedd Rwsia ffoi
Mae lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos milwyr byddin Wcráin yn cael eu cofleidio yng nghanol dinas Kherson ddydd Gwener, ar ôl i luoedd Rwsia ffoi o'r ddinas.
Cafodd Kherson ei chipio'n gynnar ar ddechrau'r rhyfel a hyd yn hyn, hon oedd yr unig brif ddinas ranbarthol i ddod o dan reolaeth lluoedd Rwsia.
Dywedodd gweinyddiaeth amddiffyn Rwsia fod holl filwyr ei lluoedd wedi gadael tir i'r gorllewin o afon Dnipro.
Mae awgrym fod pont Antonivskiy wedi ei difrodi hefyd wrth i fyddin Rwsia encilio o'r rhanbarth.
Ddydd Mercher fe gyhoeddodd prif gadfridog Rwsia yn Wcráin, Sergei Surovikin, nad oedd modd cynnal milwyr yn Kherson bellach.
"Ours". How much power is in this word. Thousands of people on Kherson streets meet their defenders with blue and yellow flags – footage that bring tears to the eyes of every Ukrainian today. Ours are at home. Kherson is free. Soon the whole 🇺🇦 will be free. pic.twitter.com/tDu8zrK0ec
— Олена Зеленська (@ZelenskaUA) November 11, 2022
Os yw lluoedd y wlad wedi encilio'n llwyr o'r ardal, yna fe fydd y datblygiad diweddaraf wedi digwydd yn llawer cynt na'r disgwyl.
Roedd byddin Rwsia ar ochr orllewinol yr afon Dnipro wedi dioddef ymosodiadau cyson yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan gynyddu'r pwysau ar gadwyn gyflenwad eu lluoedd yno.
Gadael Kherson yw un o'r camau milwrol mwyaf sylweddol gan Rwsia ers dechrau'r gwrthdaro ym mis Chwefror, ac fe fydd yn codi cwestiynau pellach am arweinyddiaeth Vladimir Putin yn y Kremlin.