Newyddion S4C

Matt Hancock yn dweud iddo wynebu cyfnod 'anodd iawn'

11/11/2022
Seann Walsh _ Matt Hancock / I'm a Celeb

Mae cyn-ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Matt Hancock, wedi dweud fod y cyfnod ar ôl gorfod ymddiswyddo wedi bod yn "anodd iawn".

Cafodd Mr Hancock berthynas gyda menyw arall er ei fod yn briod, gyda rhai yn honni iddo dorri rheolau ymbellhau'n gymdeithasol ar y pryd.

Daw ei sylwadau wedi iddo ymuno â'r enwogion yn y jwngl yn Awstralia ar gyfer I'm a Celebrity...Get Me Out Of Here.

"Dw i wedi ymddiswyddo a dyw e ddim yn esgus ond fe wnes i syrthio mewn cariad," meddai wrth ei gyd-gystadleuydd Babatunde Aléshé ar y rhaglen nos Iau.

"Ac mae hynny'n anodd ac fe gafodd hynny lawer o ganlyniadau eraill, yn amlwg.

"Yn amlwg fe wnes i achosi hyn fy hun.

"I messed up and I fessed up," ychwanegodd.

Dywedodd Mr Hancock ei fod yn dal i fod mewn perthynas â'i bartner, Gina.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.