Newyddion S4C

Aelod Seneddol presennol hiraf Plaid Cymru i sefyll i lawr

11/11/2022
S4C

Mae Aelod Seneddol presennol hiraf Plaid Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll i lawr.

Mae Hywel Williams, sydd wedi cynrychioli etholaeth Caernarfon rhwng 2001 a 2010 ac Arfon ers 2010 wedi dweud na fydd yn sefyll eto yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Wrth annerch aelodau lleol y Blaid mewn cyfarfod nos Iau, dywedodd ei bod hi wedi bod yn "anrhydedd ac yn fraint" i wasanaethu pobl Arfon.

Fe olynodd Mr Williams Dafydd Wigley yn sedd Caernarfon yn 2001, ers hynny mae wedi cadw sedd mewn etholiadau San Steffan.

Dywedodd Hywel Williams AS: "Ar ôl cryn feddwl a thrafod gyda fy nheulu rwyf wedi penderfynu peidio cynnig fy hun fel ymgeisydd i sefyll eto ar ran Plaid Cymru i fod yn Aelod Seneddol dros etholaeth Arfon.

"Bu gwasanaethu fel AS Caernarfon o 2001 ymlaen, gan ddilyn ôl troed Dafydd Wigley, un o gewri gwleidyddol Cymru, ac yna sefyll ac ennill sedd newydd Arfon yn 2010 yn fraint rhyfeddol.

"Roedd yn anrhydedd arbennig cael cynrychioli fy mro fy hun ym Mhwllheli a Rhoslan hyd nes newid y ffiniau yn 2010. Rwy’n hynod o ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a gefais o’r cychwyn cyntaf gan gyfeillion a chymdogion ac aelodau’r Blaid yn Nwyfor.

"Bu sefyll yn Arfon wedyn, i ddod yn ail yn ôl y gwybodusion gwleidyddol, yn sialens enfawr, a hynny mewn cymunedau ble na fu AS y Blaid erioed o’r blaen.

"Ond bellach mae gan bobl Arfon Aelod Seneddol ac Aelod o’n Senedd dros Blaid Cymru, ynghyd â chriw mawr talentog ac ymroddedig o gynghorwyr sir a chymuned."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.