Just Stop Oil yn rhoi'r gorau i brotestio ar yr M25
Mae'r mudiad newid hinsawdd Just Stop Oil wedi rhoi'r gorau i gynnal protestiadau ar yr M25.
Ers diwedd mis Medi, mae aelodau'r mudiad wedi bod yn cynnal protestiadau yng nghanol y draffordd gan achosi oedi sylweddol i deithwyr.
Daw hyn fel rhan o ymgyrch i ddwyn pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i atal trwyddedu a chynhyrchu tanwydd ffosil newydd.
Mae'r protestiadau wedi denu ymateb chwyrn gan y cyhoedd a'r cyfryngau.
Ond mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Just Stop Oil ei fod wedi dewis Diwrnod y Cadoediad i roi'r gorau i'w protestiadau, gan alw ar Rishi Sunak i "barchu'r rhai sydd wedi gwasanaethau ac yn caru eu gwlad".
"Cymerwch y camau cyntaf angenrheidiol er mwyn sicrhau ein dyfodol gan atal unrhyw olew neu nwy newydd," meddai.
"Mae methiant Llywodraeth y DU i wneud hyn yn esgeulustod troseddol o'i ddyletswydd graidd - i amddiffyn bywydau ei dinasyddion."
Yn ystod y 32 diwrnod o brotestio, cafodd 111 pobl eu cyhuddo yn sgil 677 arest. Cafodd heddwas hefyd eu hanafu wrth ymateb i un o'r protestiadau ddydd Mercher.
Llun: Just Stop Oil