Newyddion S4C

Y Cadoediad: Cymru'n cofio'r rhai fu farw

11/11/2022
S4C

Bu miloedd o bobl ar draws Cymru yn cofio am y milwyr fu farw mewn rhyfeloedd ddydd Gwener.

Am 11:00 cafodd dau funud o dawelwch i fyfyrio ar y bywydau a gollwyd ers y Rhyfel Byd Cyntaf ac ymhob rhyfel ers hynny.

Mae eleni’n nodi 104 o flynyddoedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1918 pan ddaeth y cadoediad i rym.

Cafodd tua 40,000 o bobl o Gymru eu lladd yn ystod y rhyfel rhwng 1914 a 1918.

Mae digwyddiadau wedi eu trefnu ar draws y wlad i gofio amdanynt.

Yn Nhregaron, bydd digwyddiadau i ail-gysegru cofebion rhyfel y dref, ar ôl iddyn nhw gael eu symud i Neuadd Ysgol Henry Richard. 

Mae Ceredigion yn un o’r siroedd i oleuo adeiladau’r Cyngor yn goch.  Bydd yr adeiladau’n goch bob nos tan Sul y Cofio.

Mae torchau pabi wedi cael eu gosod ar drên sy'n teithio o Abertawe i Lundain.

Mae Age Cymru Dyfed wedi cydweithio gyda ITV Cymru i rannu ffilm yn archwilio atgofion pum cyn-filwr yng Nghymru a wasanaethodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae un o’r cyn-filwyr, Denis Tidswell o Fforestfach yn Abertawe yn sôn ei fod wedi dweud celwydd am ei oedran i ymuno â'r Awyrlu, gan wasanaethu fel gweithredwr radio yn ystod Brwydr Prydain yn haf 1940 cyn treulio bron i dair blynedd ym Malta.

Dywedodd cydlynydd y cyn-filwyr, Hugh Morgan OBE: “Mae’n hollbwysig ein bod yn cofnodi lleisiau a phrofiadau’r bobl a fu’n byw ac yn ymladd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Maen nhw bellach ymhell yn eu 90au gyda rhai bellach yn 100 oed a hŷn ac efallai nad ydyn nhw o gwmpas llawer hirach i roi eu hadroddiadau personol i ni am Ryfel Byd 1939-45.

“Rwy’n gwahodd pob math o grwpiau cymunedol, o bob cenhedlaeth, i lawrlwytho’r ffilm a gweld a chlywed drostynt eu hunain brofiadau uniongyrchol.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.