Newyddion S4C

Kwasi Kwarteng wedi dweud wrth Liz Truss am 'arafu'

11/11/2022
Kwasi Kwarteng

Mae’r cyn-ganghellor Kwasi Kwarteng wedi dweud iddo rybuddio Liz Truss ei bod hi’n mynd yn rhy gyflym gyda’i chynlluniau economaidd.

Yn ei gyfweliad cyntaf ers iddo gael ei ddiswyddo gan y Prif Weinidog ar y pryd, dywedodd Mr Kwarteng wrth TalkTV ei fod wedi dweud wrthi am “arafu” ar ôl cyhoeddiad y gyllideb fechan ym mis Medi.

Dywedodd bod y penderfyniad i’w ddiswyddo yn “wallgof” gan rybuddio mai ond "tair neu bedair wythnos" y byddai'n para pe bai'n gwneud hynny.

"Ychydig a wyddwn mai dim ond chwe diwrnod y byddai'n mynd," ychwanegodd.

Cafodd Mr Kwarteng ei ddiswyddo gan Ms Truss ym mis Hydref, bythefnos ar ôl i’w chyllideb fechan, oedd yn cynnwys torri trethi, ysgogi ansicrwydd i’r marchnadoedd ariannol.

Wrth siarad â TalkTV, dywedodd Mr Kwarteng ei fod wedi rhybuddio Ms Truss rhag mynd ar “gyflymder” gyda mesurau economaidd ar ôl y gyllideb fechan.

"Dywedodd hi, 'Wel, dim ond dwy flynedd sydd gen i' a dywedais; 'Bydd gennyt ddau fis os byddi'n parhau fel hyn'. A dyna, mae arnaf ofn, beth ddigwyddodd."

Datgelodd Mr Kwarteng, sy’n gynghreiriad gwleidyddol ers amser maith a ffrind i Ms Truss, fod y Prif Weinidog ar y pryd yn “ofidus ac yn emosiynol” pan gafodd ei ddiswyddo.

Dywedodd ei fod wedi dweud wrthi: "Mae hyn yn wallgof.  Nid yw prif weinidogion yn cael gwared ar gangellorion."

Nid yw Ms Truss wedi gwneud sylw eto am ei chyfnod fel prif weinidog ers gadael Downing Street fis diwethaf.

Mewn araith ymddiswyddo y tu allan i Rif 10, amddiffynnodd ei gweledigaeth economaidd.

Mewn cyfweliad blaenorol, dywedodd ei bod yn cymryd cyfrifoldeb am fynd "yn rhy bell, yn rhy gyflym" gyda'r toriadau treth yn y gyllideb fach.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.