Newyddion S4C

Rishi Sunak yn cwrdd ag arweinwyr Cymru a'r Alban

10/11/2022
Rishi Sunak a'r arweinwyr datganoledig

Mae'r Prif Weinidog, Rishi Sunak, wedi cwrdd ag arweinwyr Cymru a'r Alban fel rhan o gyfarfod y Cyngor Prydeinig a Gwyddelig. 

Fe wnaeth Mark Drakeford a Nicola Sturgeon gwrdd â'r prif weinidog, y Canghellor Jeremy Hunt a'r Ysgrifennydd Codi'r Gwastad Michael Gove nos Iau. 

Fe wnaeth Mr Drakeford ymuno a'r cyfarfod yn rhithiol wedi iddo brofi'n bositif ar gyfer Covid-19 wythnos ddiwethaf.

Pwrpas y cyngor yw hyrwyddo cydweithio rhwng gwledydd y DU dros broblemau eang fel ynni a'r amgylchedd. 

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Rishi Sunak ar gyfryngau cymdeithasol "fe fydd angen cydweithio, ffocws llwyr ac ymdrech ar y cyd i ddelio gyda'r problemau sydd yn wynebu pobl y DU." 

Llun: Rishi Sunak 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.