Newyddion S4C

Beirniadu Llywodraeth Cymru am 'beidio gwneud digon' i fynd i'r afael â ffliw adar

Beirniadu Llywodraeth Cymru am 'beidio gwneud digon' i fynd i'r afael â ffliw adar

Mae ffermwr ieir ger Corwen wedi beirniadu’r Llywodraeth yn hallt am beidio cyflwyno mesurau digonol i fynd i’r afael â’r ffliw adar yng Nghymru. 

Yn ôl perchennog Wyau Derwydd, sy’n magu 32,000 o ieir yn Llanfihangel Glyn Myfyr, mae’r clefyd yn ei boeni’n “ofnadwy” ac yn ei gadw’n effro gyda’r nos. 

Gyda’r ffliw adar wedi’i gadarnhau mewn ardaloedd cyfagos i’w fferm ef, mae Llŷr Jones yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i “newid eu meddyliau’n sydyn” ynghylch y ffordd maen nhw’n mynd i’r afael â’r clefyd. 

Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod yn parhau i fonitro'r sefyllfa.

“Dwi’n cofio llynedd roedd ‘na achos yn Chirk sydd tua 40 munud i ffwrdd a ddaru ni gau lawr Cymru y bryd hynny,” meddai. 

“Rŵan mae ‘na tua 10 lle yng Nghymru wedi ei gael o’n barod felly dw’i just ddim yn dallt, pam bod o’n ddigon da llynedd a dydy o ddim yn ddigon da eleni?”

Gwahanol i Loegr

Mae’r ffliw adar yn glefyd feirysol hynod heintus. Mae’n effeithio ar systemau anadlu, treulio a nerfol llawer o rywogaethau o adar. 

Mae rhai mathau o ffliw adar yn lledaenu’n rhwydd a chyflym rhwng adar ac yn achosi cyfraddau marwolaethau uchel.

Image
Mesurau ffliw adar
Mae rhai mesurau i leihau lledaeniad ffliw adar eisoes wedi'u cyflwyno yng Nghymru.

Mae 10 achos o ffliw adar pathogenig iawn wedi'i gadarnhau ar safleoedd yng Nghymru ers Hydref 2021. Bwcle, Sir y Fflint yw’r safle diweddaraf i gadarnhau’r clefyd yng Nghymru ar 7 Tachwedd, 2022. 

Ddydd Mawrth, fe gyhoeddodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Leslie Griffiths ddatganiad ar ddifrifoldeb a lledaeniad Ffliw Adar yng Nghymru, gan bwysleisio fod y sefyllfa’n cael ei “adolygu’n ddyddiol”. 

Cadarnhaodd hefyd fod penderfyniad Prif Swyddog Milfeddygol Cymru ar y 17 Hydref 2022 i gyflwyno Parth Atal Ffliw Adar, yn parhau. 

Mae’r Parth Atal yn golygu bod rhaid i holl geidwaid adar lynu wrth fesurau bioddiogelwch.

Mewn datganiad yn y Senedd ddydd Mawrth, fe ddywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig: 

“Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi gweld yr achosion mwyaf difrifol o ffliw adar yng Nghymru ac ar draws Prydain.

"Dyma’r achos mwyaf o glefyd hysbysadwy egsotig mewn anifeiliaid ers yr achos trychinebus o glwy’r traed a’r genau yn 2001.”

Image
Mesurau ffliw adar
Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn dilyn trywydd Lloegr.

Serch hyn, fe sicrhaodd y Gweinidog wrth weinidogion eraill bod Cymru’n gweithredu ar sail cyngor gwyddonol, yn hytrach na dilyn ôl troed Lloegr, a gyhoeddodd ddechrau’r wythnos bod rhaid i ddofednod ac adar caeth gael eu cadw dan do. 

“Nid yw Cymru, ynghyd â’r Alban a Gogledd Iwerddon, wedi cyflwyno gofyniad tebyg,” meddai’r Gweinidog.

“Mae hyn yn adlewyrchu gwahanol raddfa a natur y ffliw adar ar draws gwahanol rannau o’r DU. Yn ffodus, yng Nghymru, nid ydym wedi gweld dim byd tebyg i nifer yr achosion yn Lloegr, a fyddai’n ofynnol i gyfiawnhau unrhyw orchymyn tai o’r fath. 

Ffliw adar yn achosi ‘poen meddwl’ 

Ond yn ôl y ffermwyr ieir Llŷr Jones, mae’r sefyllfa mor ddrwg yng Nghymru ar hyn o bryd, mae hyd yn oed cael yswiriant yn broblem. 

“Does 'na’r un cwmni yn fodlon rhoi insurance i chi, mae’r risg yn rhy uchel i’w wneud o,” meddai. 

Image
Wyau
Mae yna bryderon ar effaith yr haint ar gynhyrchu bwyd.

“Mae hyd yn oed y banc wedi ffonio, maen nhw’n poeni oherwydd os ‘swn i’n ei gael o, ‘dach chi’n sôn am roi pobl i ffwrdd o’r gwaith, bron miliwn o bunnau i gael eich hunan yn ôl i’r un lle, felly mae’r boen meddwl yn go ddrwg rili.

"Mae o’n rywbeth ‘dach chi’n cael job cysgu yn y nos yn meddwl amdano fo.” 

Wedi bod wrthi’n magu ieir ers 2015, mae’r ffermwr ger Corwen yn dweud nad “os” daw’r clefyd yw’r pryder, ond yn hytrach, “pryd” ddaw’r clefyd i’w taro. 

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ar ôl dadansoddi'r dystiolaeth wyddonol rydyn ni wedi penderfynu peidio â gorchymyn cadw dofednod yng Nghymru dan do ond byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.