Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ail-gyflwyno rheol gwisgo mygydau
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ail-gyflwyno rheol gwisgo mygydau i ymwelwyr, cleifion a staff.
Yn ôl y bwrdd iechyd, mae'r penderfyniad yn cael ei wneud o ganlyniad i gynnydd diweddar yn y gyfradd o heintiau anadlol.
Bydd y rheol yn dod i rym ar 14 Tachwedd ac yn orfodol i holl ymwelwyr, cleifion a staff, oni bai eu bod wedi'u heithrio rhag gwneud hynny.
Mae'r adeiladau lle bydd hyn yn orfodol yn cynnwys Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Maelor Wrecsam, ysbytai cymunedol ar draws y gogledd, gan gynnwys apwyntiadau i gleifion allanol, practisau Meddygon Teulu a chanolfannau iechyd.
Mae'r bwrdd iechyd yn dweud y bydd mygydau ar gael wrth y mynedfeydd i leoliadau gofal iechyd.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda byrddau iechyd eraill i holi os fyddant yn gwneud newidiadau tebyg.