Heddlu'n apelio yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tair lori yn Sir Gâr
10/11/2022
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol rhwng tair lori yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd un dyn ei gludo i ysbyty gan hofrennydd gydag anafiadau difrifol yn dilyn y gwrthdrawiad ar yr A40 yn ystod oriau man bore Mercher.
Cafodd y ffordd ei chau rhwng Sanclêr a Hendy-gwyn gan yr heddlu wrth iddynt lansio ymchwiliad i amgylchiadau'r gwrthdrawiad.
Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad i gysylltu â nhw'n syth gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20221109-011.