Newyddion S4C

Gwasanaeth cludo bwyd Deliveroo yn cynnig casglu bwyd i fanciau bwyd Caerdydd

Nation.Cymru 10/11/2022
S4C

Mae'r gwasanaeth cludo bwyd Deliveroo wedi cynnig dechrau casglu bwyd ar gyfer banciau bwyd yng Nghaerdydd.

Bydd Deliveroo yn gweithio gyda'r elusen Trussell Trust i gasglu bwydydd sydd heb agor ac o fewn dyddiad o dai pobl i fanciau bwyd ar draws y brifddinas.

Fe fydd y cynllun yn gweithredu dan yr enw 'Collecteroo' ac fe fydd ac fe fydd modd i bobl gofrestru i drefnu casgliad rhwng 12 ac 17 Rhagfyr.

Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu bwydydd fel tuniau ffrwythau, cig, pysgod a saws pasta.

Daw'r penderfyniad i ddechrau'r gwasanaeth wedi i'r Trussell Truss rybuddio bod yr argyfwng costau byw wedi gyrru banciau bwyd i bwynt lle nad ydyn nhw'n gallu ymdopi.

Dywedodd Will Shu, Prif Weithredwr Deliveroo: "Mae ein hymchwil yn dangos bod gan bobl fwyd yn eu cwpwrdd maen nhw eisiau gyfrannu, felly trwy weithio gyda'r Trussell Trust, bydd ein gwasanaeth Collecteroo yn gwneud hi'n haws i bobl gyfrannu drwy gysylltu pobl leol i fanciau bwyd lleol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.