CPD Wrecsam ar frig y Gynghrair Genedlaethol
10/11/2022
Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam ar frig y Gynghrair Genedlaethol yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Scunthorpe United nos Fercher.
Enillodd tîm Phil Parkinson o 3-1 gan fanteisio ar gêm gyfartal Notts County, a oedd ar frig y tabl yn flaenorol.
Ollie Palmer, Aaron Hayden a Paul Mullin oedd sgorwyr Wrecsam gyda Jai Rowe yn sgorio i Scunthorpe.
Bydd Wrecsam yn wynebu Wealstone ddydd Sadwrn wrth iddynt geisio manteisio ar y momentwm er mwyn parhau ar y brig.