Lluoedd Rwsia yn encilio o ddinas Kherson yn Wcráin
Mae lluoedd Rwsia wedi dechrau encilio o ddinas Kherson ac ardaloedd cyfagos yn ne Wcráin.
Mewn datganiad teledu, dywedodd prif gadfridog Rwsia yn Wcráin, Sergei Surovikin, nad oedd modd cynnal milwyr yn y ddinas rhagor.
Dyma un o'r camau milwrol mwyaf sylweddol gan Rwsia ers dechrau'r gwrthdaro ym mis Chwefror.
Cafodd Kherson ei chipio'n gynnar ar ddechrau'r rhyfel a hyd yn hyn hon yw'r unig brif ddinas ranbarthol i ddod o dan reolaeth Rwsia.
Daeth rhanbarth Kherson hefyd 'yn rhan' o Rwsia - ynghyd a Luhansk, Donetsk a Zaporizhzhia - yn dilyn cyfres o refferenda ffug ym mis Medi.
Daw'r newyddion wedi i luoedd Wcráin lansio sawl ymosodiad ar filwyr Rwsia dros yr haf, wrth geisio adennill rhagor o dir yn ne'r wlad.
Darllenwch fwy yma.