Nyrsys yn pleidleisio i fynd ar streic 'cyn diwedd y flwyddyn'
Nyrsys yn pleidleisio i fynd ar streic 'cyn diwedd y flwyddyn'
Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi cyhoeddi bod ei aelodau wedi pleidleisio i fynd ar streic am y tro cyntaf yn hanes yr undeb.
Dywedodd yr undeb mewn datganiad brynhawn dydd Mercher y byddai'r gweithredu diwydiannol yn digwydd "cyn diwedd y flwyddyn."
Mae'r undeb yn gofyn am godiad cyflog o 5% uwchlaw chwyddiant, sydd yn 12% ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod wedi ymrwymo i gynnig codiadau cyflog i nyrsys yn unol ag awgrymiadau panel annibynnol ar gyflogau.
Dywed Llywodraeth Cymru bod mesurau wedi eu paratoi ar gyfer unrhyw darfu ar wasanaethau petai streicio'n digwydd.
Mae mwyafrif y nyrsys ymhob un o fyrddau iechyd Cymru heblaw am Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi pleidleisio o blaid mynd ar streic.
Dywed yr undeb fod canlyniad y bleidlais dros fynd ar streic "yn dangos bod aelodau o fwyafrif cyflogwyr y GIG ar draws y DU wedi pleidleisio i streicio yn eu brwydr dros gyflog teg a staffio diogel.
"Bydd streiciau nawr yn digwydd yn ymddiriedolaethau'r GIG neu fyrddau iechyd sydd wedi bodloni'r gofynion cyfreithiol perthnasol."
Ychwanegodd yr undeb y byddai llawer o ysbytai mwyaf Lloegr yn gweld streicio gan aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol "ond methodd eraill o drwch blewyn â'r trothwyon pleidleisio cyfreithiol i fod yn gymwys ar gyfer camau gweithredu.
"Bydd holl gyflogwyr y GIG yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban yn cael eu cynnwys ac roedd pob un ac eithrio un yng Nghymru yn bodloni’r trothwyon cyfreithiol perthnasol."
Mae gan y coleg dros 300,000 o aelodau, a'r bleidlais sydd newydd ei chynnal yw'r fwyaf yn hanes yr undeb, sydd yn 106 oed.
Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi dweud na fyddai streic yn effeithio ar wasanaethau gofal brys.
'Digon yw digon'
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol a Phrif Weithredwr yr undeb, Pat Cullen: “Mae hon yn foment ddiffiniol yn ein hanes, a bydd ein brwydr yn parhau trwy'r streic a thu hwnt am gyhyd ag y bydd yn ei gymryd i ennill cyfiawnder i’r proffesiwn nyrsio a’n cleifion.
“Mae dicter wedi troi yn weithred - mae ein haelodau yn dweud 'digon yw digon'.
“Rhaid i weinidogion edrych yn y drych a gofyn am ba mor hir y byddant yn rhoi staff nyrsio trwy hyn. Wrth inni gynllunio ein streic, cyllideb yr wythnos nesaf yw cyfle llywodraeth y DU i nodi cyfeiriad newydd gyda buddsoddiad difrifol.
“Bydd y weithred hon gymaint i gleifion ag ydyw i nyrsys. Mae safonau'n disgyn yn rhy isel ac mae gennym ni gefnogaeth gyhoeddus gref i'n hymgyrch.”