Newyddion S4C

Dros 70,000 o staff prifysgolion i fynd ar streic

08/11/2022
Prifysgol

Fe fydd mwy na 70,000 o staff prifysgolion yn mynd ar streic yn ystod mis Tachwedd dros anghydfod ynglŷn â thal, safonau gweithio a phensiynau. 

Mae tridiau o weithred ddiwydiannol ar hyd 150 o brifysgolion wedi'u trefnu gan Undeb y Colegau a Phrifysgolion (UCU) ar gyfer 24, 25 a 30 Tachwedd. 

Yn ôl yr undeb, dyma fydd y weithred ddiwydiannol fwyaf erioed ym mhrifysgolion y DU ac fe allai effeithio ar 2.5 miliwn o fyfyrwyr. 

Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn cefnogi'r streic gan ddweud bod rhaid i staff a myfyrwyr "ymladd ar y cyd ar gyfer system addysg fwy teg ac iachach." 

Dywed y prifysgolion eu bod wedi paratoi ar gyfer yr anghydfod ac yn bwriadu amddiffyn addysg myfyrwyr yn ystod y cyfnod.

Daw'r streic wedi i fwyafrif llethol o aelodau'r UCU bleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol, gan honni bod tâl a safonau gweithio yn cael eu tanseilio a bod eu pensiynau wedi'u cwtogi. 

Chwyddiant

Mae'r undeb yn galw am godiad cyflog uwch yn sgil yr argyfwng costau byw, gan feirniadu'r cynnydd o 3% y mae prifysgolion wedi ei gynnig hyd yn hyn, gan ei fod yn is na'r raddfa chwyddiant. 

Dywed yr undeb fod toriadau i bensiynau hefyd yn golygu bod staff wedi colli 35% o'u hincwm ar gyfer ymddeoliad. 

Wrth gyhoeddi'r gweithredu diwydiannol, dywedodd undeb UCU y gall y streic gael ei hatal os daw cynnig gwell gan y prifysgolion. 

"Mae is-gangellorion yn penderfynu talu cannoedd o filoedd o bunnau i'w hunain wrth orfodi ein haelodau i mewn i gytundebau tâl isel ac ansefydlog, sydd yn gadael rhai yn defnyddio banciau bwyd," meddai Jo Grady, ysgrifennydd cyffredinol UCU.

"Dydy aelodau UCU ddim eisiau streicio ond yn gwneud er mwyn achub y sector ac ennill urddas yn y gwaith."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.