
Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth dylunio het bwced
Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth dylunio het bwced
Mae enillydd cystadleuaeth i ddylunio het bwced gan y Mentrau Iaith wedi ei gyhoeddi.
Penny Grice o Ysgol y Dderwen, Caerfyrddin yw enillydd y gystadleuaeth a Zakia Johnson o Rydaman, Lili Wen o Ruthun ac Ifan Midwood o Forfa Nefyn ydy’r tri arall ddaeth i’r brig.
Roedd dyluniad Penny yn cynnwys lliwiau coch, gwyrdd a Melyn gyda #YWalGoch arni. Canolbwynt yr het ydy calon gyda logo Cymdeithas Bêl-droed Cymru gyda theitl anthem answyddogol Cymru, Yma o Hyd yn gefndir i hynny.

Y cyflwynydd pêl-droed, Sioned Dafydd, y canwr Geraint Løvgreen a Tim Williams, perchennog cwmni Spirit of ’58, oedd y beirniaid.
A dywedodd Geraint Løvgreen ei fod wedi ei blesio : " 'Dan ni’n hoff iawn o’r lliwiau a geiriau ‘Yma o Hyd’ yn mynd o gwmpas y band canol. Ac mae’r galon efo bathodyn Cymru yng nghanol y bathodyn yn wych hefyd.
"Roedd hi’n gystadleuaeth safonol iawn. Does ‘na ddim prinder dylunwyr talentog ifanc yng Nghymru. Dan ni wrth ein bodd efo’r 4 het. Basai pob un ohonyn nhw’n gallu ennill a baswn i’n hapus iawn.”
Bydd Penny a’i dosbarth cyfan yn derbyn set o hetiau bwced gyda’i dyluniad arnynt. Ac fel bonws, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwahodd Penny i wylio sesiwn hyfforddiant tîm pêl-droed Cymru yn y gwanwyn.
Fe wnaeth dros 5,400 o blant gymryd rhan yng nghystadleuaeth dylunio het bwced y Mentrau Iaith.