Apêl am wybodaeth wedi diflaniad y cyn-chwaraewr rygbi Levi Davis yn Sbaen

Mae cyn-chwaraewr rygbi Lloegr Tom Varndell wedi annog unrhyw un sydd wedi gweld Levi Davis yn ystod y pythefnos diwethaf i gysylltu gyda'r awdurdodau.
Cafodd Mr Davis, sydd hefyd yn gyn-chwaraewr rygbi proffesiynol, ei weld ddiwethaf mewn tafarn yn Barcelona ar 29 Hydref ar ôl teithio yno'n ddi-rybudd o Ibiza.
Daeth i amlygrwydd ar Celebrity X Factor ar ITV yn 2019 ac roedd ar raglen Celebs Go Dating ar E4 yn 2020.
Dywed mam faeth Levi Davis ei fod yn "anarferol" bod Levi heb gysylltu â neb ers iddo ddiflannu. Mae hi bellach wedi teithio i Barcelona i holi’r heddlu am ragor o wybodaeth.
Darllenwch ragor yma.