Llysgennad Qatar Cwpan y Byd: Bod yn hoyw yn 'niwed yn y meddwl'

Mae llysgennad ar gyfer Cwpan y Byd Qatar wedi dweud wrth ddarlledwr teledu yn yr Almaen fod bod yn hoyw yn "niwed yn y meddwl."
Wrth siarad mewn cyfweliad yn Doha a fydd yn cael ei ddarlledu ddydd Mawrth, dywedodd y cyn bêl-droediwr, Khalid Salman, fod yn rhaid i bobl "dderbyn ein rheolau yma.
"Mae bod yn hoyw yn haram. Mae haram yn golygu wedi ei wahardd."
Dywedodd Mr Salman fod bod yn hoyw yn ei wlad wedi ei wahardd gan ei fod yn "niwed yn y meddwl."
Yn dilyn y sylwadau yma, daeth y cyfweliad i ben ar unwaith.
Daw hyn er i drefnwyr ddweud sawl gwaith fod yna groeso i bawb yng Nghwpan y Byd Qatar.
Dywedodd cyn-lywydd Fifa, Sepp Blatter, ddydd Mawrth bod cynnal Cwpan y Byd yn Qatar yn "gamgymeriad."
Mr Blatter oedd llywydd Fifa pan enillodd Qatar yr hawliau i gynnal y bencampwriaeth yn 2010.
Wrth siarad â phapur newydd o'r Swistir, dywedodd ei bod hi'n "wlad rhy fach. Mae pêl-droed a Chwpan y Byd yn rhy fawr ar ei chyfer hi."
Rhagor yma.