Mwyafrif o ysgolion Cymru yn wynebu diswyddiadau medd arolwg
Mae mwyafrif ysgolion Cymru yn wynebu diswyddiadau yn sgil yr argyfwng costau byw, yn ôl arolwg newydd.
Ddydd Mawrth, cyhoeddodd Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT) ganfyddiadau arolwg a wnaeth dderbyn ymateb gan 670 o arweinwyr ysgol yng Nghymru.
Fe wnaeth y mwyafrif o ysgolion adrodd y bydd yn rhaid iddynt wneud diswyddiadau yn y flwyddyn nesaf. Roedd 73% yn dweud y bydd yn rhaid iddynt ddiswyddo cymorthyddion dysgu neu leihau eu horiau.
Dywedodd 61% eu bod yn edrych ar leihau'r nifer o athrawon neu eu horiau dysgu.
Yn ôl yr arolwg, bydd 38% o ysgolion yn mynd i ddiffyg ariannol eleni oni bai eu bod yn gwneud toriadau pellach.
Roedd bron i hanner yr ysgolion (48%) yn dweud y byddant yn cael eu gorfodi i leihau cefnogaeth a gwasanaethau ychwanegol y flwyddyn nesaf megis cwnsela, therapi a chefnogaeth iechyd meddwl.
'Effaith ar genhedlaeth o ddysgwyr'
Dywedodd cyfarwyddwr NAHT Cymru, Laura Doel, fod "ysgolion yng Nghymru yn wynebu'r diwygiad addysg fwyaf mewn degawdau sydd heb gael ei ariannu'n llawn, ac maent nawr yn wynebu cael eu heffeithio gan gostau sylweddol.
"Yn syml, nid yw'r ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol, cyflwyno'r Cwricwlwm Newydd i Gymru ac oblygiadau cynnig prydau ysgol am ddim wedi cael eu hystyried."
Ychwanegodd Ms Doel fod "disgwyliadau afrealistig yn cael eu rhoi ar ysgolion, ac mae hi'n bryd i gyflogwyr yr Awdurdod Lleol a Llywodraeth Cymru i sylweddoli y bydd effaith tan gyllido yn mynd yn ymhell tu hwnt i ddiswyddiadau. Bydd yn cael effaith ar genhedlaeth o ddysgwyr."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn cydnabod bod lefelau uchel o chwyddiant a chostau ynni yn achosi pwysau ariannol ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi."
Dywed Llywodraeth Cymru fod eu cyllid ar gyfer y tair blynedd nesaf yn werth £4 biliwn yn llai, a bod angen i Lywodraeth y DU "weithredu ar frys."
Maent hefyd yn dweud ei bod yn ymrwymedig i gefnogi ysgolion wrth iddynt orfod defnyddio cronfeydd wrth gefn, ac mae trafodaethau eisoes ar waith er mwyn canfod sut i ddefnyddio'r cronfeydd hyn.