Cynnal etholiadau canol tymor yn yr UDA
Mae'r etholiadau canol tymor yn cael eu cynnal yn Unol Daleithiau America ddydd Mawrth.
Bydd y rhain yn cael eu hystyried gan rai fel ffordd o fesur poblogrwydd yr Arlywydd Joe Biden.
Mae hi bellach yn ddwy flynedd ers i'r Arlywydd Biden, ymgeisydd y Blaid Ddemocrataidd, ennill yr etholiad arlywyddol yn erbyn Donald Trump.
Mae cryn ddarogan a fydd Mr Trump yn sefyll i fod yn ymgeisydd y Blaid Weriniaethol yn yr etholiad arlywyddol nesaf gan geisio dychwelyd i'r Tŷ Gwyn.
Bydd pobl yn pleidleisio i lenwi 435 sedd yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr a 35 o'r 100 sedd yn y Senedd.
Bydd canlyniadau'r bleidlais yn effeithio ar sut mae'r Gyngres nesaf yn cael ei ffurfio.
Y Gyngres yw'r rhan o lywodraeth yr UDA sy'n gyfrifol am basio deddfau a chreu cyfreithiau.