Cadarnhau tro pedol ar gynlluniau i adeiladu cwch brenhinol newydd

Mae'r Ysgrifennydd Amddiffyn, Ben Wallace, wedi cadarnhau na fydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau dadleuol i adeiladu cwch brenhinol newydd.
Cafodd y cynlluniau gwerth £200m i adeiladu'r cwch newydd - a gafodd eu beirniadu'n chwyrn gan y gwrthbleidiau - eu cyhoeddi gan y cyn-brif weinidog, Boris Johnson, yn 2021.
Ond wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Llun, dywedodd Mr Wallace na fydd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ariannu'r prosiect rhagor.
Yn lle, dywedodd Mr Wallace y bydd y Llywodraeth yn blaenoriaethu prynu llongau ymchwilio milwrol er mwyn "amddiffyn ein hisadeiledd cenedlaethol" yn sgil y rhyfel yn Wcráin.
Daw hyn ar drothwy datganiad ariannol y Llywodraeth ar 17 Tachwedd, lle mae disgwyl i'r prif weinidog newydd, Rishi Sunak, a'r Canghellor, Jeremy Hunt, gyhoeddi nifer o doriadau gwariant cyhoeddus.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Downing Street