Newyddion S4C

Galwad i ymchwilio i ddylanwad TikTok ar farwolaeth bachgen 12 oed

The Guardian 07/11/2022
Archie Battersbee

Mae mam Archie Battersbee wedi galw ar y crwner yng nghwest ei mab i ymchwilio i ddylanwad TikTok ar farwolaeth y bachgen 12 oed o Southend, yn ne ddwyrain Lloegr . 

Dioddefodd Archie anafiadau difrifol i'w ymennydd wedi iddo gael ei ddarganfod yn anymwybodol yn ei gartref yn Essex ym mis Ebrill. 

Bu farw'r bachgen ifanc ym mis Awst, wedi i'r Goruchaf Lys wrthod ymgais gyfreithiol ei rieni, Hollie Dance a Paul Battersbee, i barhau â thriniaeth i'w gadw'n fyw.

Mae cyfreithwyr Ms Dance bellach wedi ysgrifennu at y crwner yn galw am ymchwiliad i effaith y cyfrwng cymdeithasol TikTok ar farwolaeth Archie. 

Yn ôl Ms Dance, cafodd Archie ei anafu wrth gymryd rhan mewn her ar-lein ar yr ap. 

Dyw TikTok ddim wedi gwneud sylw. 

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.