Kemi Badenoch yn gwrthod diystyru cytundeb gyda Reform UK ar ôl etholiadau’r Senedd

ITV Cymru 31/01/2026
Kemi Badenoch

Mae Kemi Badenoch wedi gwrthod diystyru taro bargen gyda Reform UK ar ôl etholiadau’r Senedd ym mis Mai.

Wrth ymweld â Senedd Cymru ddydd Gwener dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr nad oedd y blaid wedi trafod unrhyw gytundebau â phleidiau eraill ar hyn o bryd.

Ond mater i arweinydd presennol y blaid yn y Senedd fyddai dewis gwneud hynny ar ôl yr etholiad, meddai.

Dywedodd: "Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn trafod cytundebau. 

“Dyw pobl sy'n trafod bargeinion cyn etholiad ddim yn wirioneddol awyddus i helpu'r cyhoedd, dim ond trefnu pethau i siwtio eu hunain.

"Ar ôl yr etholiad, bydd Darren (Millar) yn penderfynu pwy sydd orau i’n helpu i gyflawni ein nod fel Ceidwadwyr a dyna pwy y bydd yn gweithio gyda nhw. 

“Gobeithio y bydd gennym ddigon o aelodau ein hunain i wneud hynny ond os na fydd gennym, bydd yn rhaid iddo wneud y penderfyniad hwnnw."

Mae Badenoch wedi gorfod delio â nifer o ASau yn symud i Reform UK, gyda'r cyn-ysgrifennydd cartref Suella Braverman y diweddaraf ohonynt.

Yn gynharach y mis hwn, cafodd James Evans ei ddiswyddo o gabinet cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ar ôl trafod gyda Reform UK.

Mae yn parhau yn AS annibynnol ar hyn o bryd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.