Cau rhannau o’r M25 yn dilyn protestio gan ymgyrchwyr Just Stop Oil
07/11/2022Fe gafodd rhannau o’r M25 sy'n amgylchynu Llundain eu cau dros dro ddydd Llun yn dilyn ymgyrchu gan brotestwyr Just Stop Oil.
Yn dilyn y digwyddiad, cyhoeddodd Heddlu'r Met fod tri o bobl wedi eu harestio a'u bod yn y ddalfa.
Yn ystod y digwyddiad fe ofynnodd yr heddlu i deithwyr osgoi'r ardal am gyfnod.
Dywedodd Heddlu Surrey bod penderfyniad wedi’i wneud i gau sawl rhan o’r M25 yn ystod oriau brig “er diogelwch pawb”.
Mae Just Stop Oil yn ymgyrch sydd yn ceisio dwyn pwysau ar Lywodraeth y DU i atal trwyddedu a chynhyrchu tanwydd ffosil newydd.
Mae 677 o brotestwyr Just Stop Oil wedi eu harestio yn dilyn ymgyrchu diweddar medd yr heddlu, gyda 111 o unigolion wedi eu cyhuddo yn ystod y mis diwethaf.
Darllenwch ragor yma.
