Newyddion S4C

Mark Drakeford yn profi'n bositif am Covid-19

07/11/2022
Mark Drakeford

Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi profi'n bositif am Covid-19.

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Drakeford fod y "Prif Weinidog yn gweithio o adref ar hyn o bryd ar ôl cael prawf Covid positif".

"Er nad yw'n ofyniad cyfreithiol, mae'n bwysig bod unrhyw un sy'n profi'n bositif yn ynysu wrth wella," meddai.

"Rydyn ni'n annog pawb sy'n gymwys, i dderbyn y cynnig o frechiad atgyfnerthu Covid".

Mae nifer y bobl sy'n profi'n bositif am Covid yn parhau i leihau yng Nghymru, gyda'r data diweddaraf yn dangos fod un ymhob 40 o bobl yn profi'n bositif. 

Daw'r newyddion bythefnos union cyn y mae disgwyl i Mr Drakeford fod yn bresennol yn Qatar yng ngêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd yn erbyn yr UDA. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.