Newyddion S4C

I Qatar mewn car trydan: Cefnogwyr yn cyrraedd Groeg ar ôl 10 diwrnod

07/11/2022
car electric qatar groeg

Mae'r car trydan sydd yn teithio'r holl ffordd o Gaerdydd i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd wedi cyrraedd Groeg wedi 10 diwrnod o deithio.

Fe wnaeth Morris y car trydan a'r cefnogwyr gyrraedd Athen fore Sadwrn, ac roedd 'na westai yno yn aros amdanynt.

Cyn-hyfforddwr Cymru Chris Coleman yn un oedd yno i'w croesawu, ac mae ar hyn o bryd yn hyfforddwr Atromitos yng Nghynghrair bêl-droed Groeg.

Er y tywydd stormus, roedd cyn-bêldroediwr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Scott Young, Nick Smith, Huw Talfryn Walters a Walter Pennell wedi mwynhau sgwrs gyda Coleman a gwylio'i glwb Atromitos yn erbyn Aris.

Hyd yma, mae'r car wedi teithio trwy nifer o wledydd gan gynnwys Ffrainc, Gwlad Belg, Y Swistir, Yr Eidal, Awstria a Serbia.

Mae'r cefnogwyr wedi bod yng Ngroeg ers dydd Sadwrn ac yn aros yno cyn hedfan i Israel a chwrdd â chyn-chwaraewr Cymru Kevin Ratcliffe yn Tel Aviv.

O Tel Aviv bydd y car a'r cefnogwyr yn teithio trwy Wlad yr Iorddonen i Saudi Arabia ac wedyn i Qatar, gyda'r gobaith o gyrraedd erbyn 17 Tachwedd, a chwrdd gyda chwaraewyr Cymru y diwrnod canlynol.

Bydd Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd ar 21 Tachwedd yn erbyn yr UDA. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.