Newyddion S4C

Tynnu gwasanaeth mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg o fesurau arbennig

07/11/2022
Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Mae gwasanaeth mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cael ei symud o fod mewn mesurau arbennig i ymyrraeth wedi'i thargedu. 

Cafodd Panel Annibynnol Trosolwg Gwasanaethau Mamolaeth ei sefydlu i oruchwylio gwelliannau i wasanaethau mamolaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, yn dilyn nifer o fethiannau difrifol yng ngwasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd.

Mae gwasanaethau mamolaeth y bwrdd wedi bod mewn mesurau arbennig ers i “fethiannau sylweddol” gael eu nodi dros dair blynedd yn ôl.

Cyhoeddodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, Adroddiad Cynnydd Medi 2022 gan y panel ddydd Llun. 

Roedd Ms Morgan wedi gosod cyfres o amodau ym mis Mai er mwyn sicrhau y gallai'r bwrdd wneud "gwelliannau parhaus a chynaliadwy", gan ganolbwyntio yn benodol ar wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. 

Amodau

Dywedodd y gweinidog iechyd ddydd Llun ei bod o'r farn fod "pob un o’r amodau wedi’u bodloni yn ystod y cyfnod adrodd hwn ac y gellir bellach ystyried fod taith gwella gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol y bwrdd iechyd yn un gynaliadwy."

Ychwanegodd ei bod yn "galonogol darllen sylwadau’r panel, yn dilyn ei ymweliad sicrwydd, sy’n nodi bod y gwasanaeth mamolaeth yn teimlo'n wahanol iawn i’r gwasanaethau a’r amodau a welwyd yn 2019."

Wrth gyfeirio at y ffaith nad yw'r gwasanaeth mamolaeth mewn mesurau arbennig bellach, dywedodd Ms Morgan fod hyn yn "cydnabod y cynnydd clir a wnaed dros y tair blynedd a hanner diwethaf."

Er y cynnydd sylweddol, mae'r gwasanaeth newyddenedigol yn parhau i fod angen goruchwyliaeth a chefnogaeth, sydd "â peth ffordd i fynd yn ei daith wella o hyd."

Ochr yn ochr â chodi'r mesurau arbennig, bydd y panel goruchwylio yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth y bwrdd fod yr adroddiad yn "dangos y cynnydd yr ydym wedi ei wneud, ond rydym hefyd yn cydnabod fod hon yn daith o welliant parhaol, ac mae llawer iawn ar ôl i'w wneud.

"Rydym yn gwybod fod babanod a theuluoedd newydd yng Nghwm Taf Morgannwg, Suzanne Hardacre, yn haeddu'r dechrau gorau mewn bywyd, ac er na wnawn ni fyth anghofio camgymeriadau y gorffennol, rydym yn hyderus bod y gofal rydym ni'n parhau i'w ddarparu i'n cymunedau ni yn ddiogel, yn broffesiynol ac o'r safon uchaf."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.