Peter Kay yn dychwelyd i gomedi byw
07/11/2022
Mae'r digrifwr Peter Kay wedi cyhoeddi ei fod yn dychwelyd i gomedi byw.
Cyhoeddodd ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod yn dychwelyd i wneud sioeau byw am y tro cyntaf ers 12 blynedd.
Bydd Mr Kay, yn perfformio ar draws Prydain ar ei daith gomedi rhwng mis Awst a Rhagfyr 2023.
Dywedodd: "Mae'n dda i ddychwelyd i wneud yr hyn dwi'n caru gwneud, ac os oes 'na gyfnod lle mae pobl angen chwerthin, nawr yw hynny."
Ychwanegodd fod costau tocynnau i fynd i weld y sioe'r un pris a'r hyn oedden nhw yn ei sioe ddiwethaf yn 2010 yn sgil yr argyfwng costau byw.