Cân swyddogol Cwpan y Byd Cymru yn cael ei rhyddhau
Mae cân swyddogol Cwpan y Byd Cymru wedi ei rhyddhau bore ddydd Llun.
Mae'r gân yn ailwampio Yma o Hyd gan Dafydd Iwan, sydd wedi bod yn ail anthem i Gymru dros y misoedd diwethaf.
Yn wahanol i'r fersiwn gwreiddiol mae'r gân yn cynnwys lleisiau aelodau’r Wal Goch. Cymdeithas Pêl-droed Cymru sydd wedi rhyddhau'r fersiwn newydd.
Mae CBCD wedi datgelu bod meicroffonau cudd wedi eu gosod yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer y gemau ail-gyfle yn erbyn Awstria a Wcráin, gan gasglu miloedd o leisiau yn canu ochr yn ochr â Dafydd Iwan.
Mae'r gân hefyd yn cynnwys lleisiau'r chwaraewyr, a gafodd eu casglu yn ystod y dathliadau ar y cae yn dilyn y fuddugoliaeth dros Wcráin. \
Mae’r fideo sydd yn cyd-fynd gyda’r gân yn dangos delweddau o gefnogwyr a’r chwaraewyr yn canu Yma O Hyd yn ystod gemau. Mae yna hefyd glipiau o fethiannau Cymru i gyrraedd cystadlaethau Cwpan y Byd y gorffennol.
Yn ogystal mae clipiau sydd yn gysylltiedig â hanes Cymru fel protestiadau cymdeithas yr iaith, yr ymgyrch ddatganoli a phrotestio yn erbyn boddi pentref Capel Celyn yn 1965. Mae'r fideo hefyd yn dangos lluniau o'r brotest weriniaethol yn ystod ymddangosiad y Tywysog Charles, ar y pryd, yn Eisteddfod Yr Urdd, Aberystwyth yn 1969.
Er bod un linell benodol wedi ei haddasu dros y blynyddoedd, mae'r fersiwn newydd hon, yn cynnwys geiriau gwreiddiol Yma O Hyd yn y pennill olaf, sy'n cyfeirio at y cyn brif weinidog Ceidwadol, Margaret Thatcher "..er gwaetha'r hen Fagi a'i chriw. "
Ry'n ni yma o hyd, er gwaetha pawb a phopeth.
— Wales 🏴 (@Cymru) November 7, 2022
Er dued yw'r fagddu o'n cwmpas, ry'n ni'n barod am doriad y wawr!#ArBenYByd | #TogetherStronger | #YWalGoch pic.twitter.com/5ykc1expNv
Dywedodd Dafydd Iwan ei bod yn fraint i weld Yma o Hyd yn cael ei ddefnyddio gan Gymru.
"Mae’r freuddwyd amhosib wedi dod yn wir, ac y mae sain ryfeddol y Wal Goch ar y trac newydd yn gyffrous ac ysbrydoledig.
"Mae’r fersiwn yma o Yma o Hyd yn cofnodi achlysur arbennig iawn yn hanes Cymru, pan wnaeth angerdd lleisiau gwych y cefnogwyr helpu Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd.
“Ni fydd gan unrhyw genedl arall ddim tebyg i hyn i ysbrydoli eu tîm ar y llwyfan mwyaf yn y byd."