Cymhelliad ‘ideoleg asgell dde’ i ymosodiad ar ganolfan brosesu mudwyr yn Dover

Roedd cymhelliad "ideoleg asgell dde terfysgol" i’r ymosodiad ar ganolfan brosesu mudwyr yn Dover yn ôl yr heddlu.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad fore dydd Sul, 30 Hydref, ar ôl i ddyn daflu bomiau petrol at ganolfan brosesu'r Viaduct.
Yn ôl adroddiadau roedd y dyn oedd yn gyfrifol am daflu'r dyfeisiadau, Andrew Leak, 66 oed, wedi lladd ei hun yn hwyrach.
Dywedodd Heddlu Gwrth Derfysgaeth de ddwyrain Lloegr fod tystiolaeth yn dangos “er bod iechyd meddwl yn ffactor, roedd y gweithrediadau yn bennaf oherwydd ideoleg eithafol.”
Darllenwch fwy yma.