Newyddion S4C

Digwyddiad mewn canolfan mudwyr yn Llundain

Evening Standard 05/11/2022
Canolfan Harmondsworth

Mae pobl sy’n cael eu cadw mewn canolfan i fudwyr yn Llundain wedi achosi aflonyddwch gydag “arfau amrywiol.”

Dywedodd y Swyddfa Gartref fod yr aflonyddwch wedi digwydd yn ystod toriad mewn cyflenwad pŵer yng nghanolfan Harmondsworth ger maes awyr Heathrow.

Ychwanegodd swyddogion nad oedd unrhyw un wedi’i anafu ac roedd pawb wedi dychwelyd i’w hystafelloedd yn y ganolfan.

Cafodd swyddogion yr heddlu a Gwasanaeth Carchar EM eu galw i'r ganolfan yn dilyn y digwyddiad.

Darllenwch fwy yma.

Llun: Detentionaction

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.