Lansio fersiwn Wcreineg o Cyw a'i Ffrindiau
Mae'r gyfres i blant Cyw a'i Ffrindiau bellach ar gael yn Wcreineg.
Mae'r cwmni cynhyrchu Boom Cymru, gyda chefnogaeth S4C, wedi cynhyrchu fersiynau o'r gyfres yn yr iaith dan yr enw Коко Ta Друзі ar gyfer Sunshine TV.
Mae Sunshine TV yn sianel YouTube sydd wedi ei lansio er mwyn i ffoaduriaid ifanc o Wcráin sy'n byw ar draws y byd gael cynnwys yn eu hiaith eu hunain.
Cafodd y gyfres ei chynhyrchu gan Kateryna Gorodnycha sydd wedi ffoi i'r Bontfaen o Wcráin.
Mae'r wyth o blant sy'n lleisio'r penodau hefyd bellach wedi ymgartrefu yng Nghymru ar ôl ffoi o Wcráin.
Cafodd Cyw a'i Ffrindiau ei lansio yn 2018, gyda chymeriadau Gwasanaeth Meithrin S4C Bolgi, Llew, Plwmp, Deryn, Jangl, Triog a Cyw yn serennu ynddo.
Mae'r penodau cyntaf yn Wcreineg wedi ei rhyddhau ddydd Sadwrn ar Sunshine TV.