Corff wedi'i ddarganfod yn Afon Taf yng nghanol Caerdydd

Mae'r heddlu wedi darganfod corff yn Afon Taf yng nghanol dinas Caerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ganol y brifddinas am tua 15:15 brynhawn dydd Gwener.
Fe wnaeth y gwasanaethau brys ddarganfod y corff yn yr afon rhwng Castell Caerdydd a Stadiwm Principality.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod eu hymchwiliadau yn parhau.
Darllenwch fwy yma.