Newyddion S4C

Nyrsys ac athrawon Merthyr 'yn ddibynnol' ar bantri bwyd

Newyddion S4C 04/11/2022

Nyrsys ac athrawon Merthyr 'yn ddibynnol' ar bantri bwyd

Mae nyrsys ac athrawon ym Merthyr ymhlith y sawl sy'n dibynnu ar bantri bwyd, gyda Banc Lloegr yn rhagweld bod dirwasgiad hir ar droed.

Dyma’r rhanbarth sydd â’r ail nifer fwyaf o ardaloedd sy’n cael eu hystyried yn "ddifreintiedig" yng Nghymru, tu ôl i Flaenau Gwent.

Mae hi’n gymuned a ddioddefodd yn waeth na’r rhan fwyaf yn ystod Covid, ac ar hyn o bryd mae hi’n teimlo fel un peth ar ôl y llall i'r bobl sy'n byw yno.

"Roedd Covid wir yn argyfwng yma," medd Lis McLean, Prif Swyddog Menter Iaith yr ardal.

"Ry’n ni gyd yn 'nabod pobl oedd wedi dioddef a rhai wedi marw, so mae’r ffaith bod rhaid i ni wynebu her mawr arall yn anodd iawn i bobl."

Mae Lis yn rhedeg Canolfan Soar yng nghanol y dref, ac mae hi’n gweld y lle fel achubiaeth i rai pobl.

"Beth dwi ’di sylwi arno ers Covid yw bod rhwydwaith o bobl yn cwrdd yma i deimlo’n saff.

"Mae pobl yn dod â dillad mewn i’w rhannu nhw mas, lot o bobl yn dod â chotiau mewn, a phobl hyd yn oed yn rhannu bwyd yn y maes parcio."

'Gwario llai'

Drws nesaf yng Nghaffi Soar, mae’r perchennog Jamie Bevan yn rhannu’r un pryderon.

"Mae pobl yn gwario llai," mae’n dweud.  "Ond ’dych chi methu rhoi prisiau lan achos does dim arian gan bobl i’w wario."

Gyda’r Canghellor Jeremy Hunt eisoes wedi rhybuddio bod mwy o "benderfyniadau caled" yn mynd i orfod cael eu gwneud, mae Jamie hefyd yn poeni am y gymuned ehangach.

"Mae ein gwasanaethau i bobl ifanc wedi cael eu difa, a ’dyn ni’n gweld mwy o ddigartrefedd, mwy o broblemau cyffuriau," meddai.

"Mae hyn yn sgil dros ddegawd o doriadau, maen nhw nawr yn sôn am fwy o doriadau.  Mae’n anodd gweld ble maen nhw’n mynd i wneud y toriadau hynny."

Dafliad carreg o gaffi Jamie, mae Hope Pantry, lle mae pobl yn talu £2.50 yr wythnos ac yn derbyn bag o fwyd gwerth £20 am hynny.

Sefydlwyd y pantri yn ystod Covid, ac ar hyn o bryd, mae’r galw am eu gwasanaeth yn cynyddu ar raddfa ddidrugaredd, gyda rhestr aros 6-8 wythnos.

Mae cyd-gydlynydd y pantri, Lisa Edwards, wedi gwahodd Newyddion S4C yno yn ystod ei hawr ginio.

"Mae llwyth o bobl sy’n gweithio yn ddibynnol ar ein pantri ni," medd Lisa, "gan gynnwys nyrsys ac athrawon."

Y broblem dai sy’n gwthio pobl mewn i dlodi, yn ôl Lisa.

"Mae hi’n rhatach i rhentu fflat yng Nghaerdydd nag ym Merthyr ar hyn o bryd, hynny am fod landlordiaid yn gwybod bod y galw mor uchel – a hefyd am fod diffyg tai cymdeithasol."

Pa obaith sydd i’r genhedlaeth nesaf?

Gyda thua 7.5% o bobl ifanc yr ardal ar fudd-daliadau yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, mae Morgan Owen yn poeni am ddyfodol yr ardal.

Fel nifer o’i ffrindiau, mae e bellach wedi symud i Gaerdydd i fyw.

"Ers i fi fod yn byw ym Merthyr ma' lot o'r adeiladau o’dd yna pan o'n i'n tyfu lan wedi mynd," dywed Morgan o’i fflat yng Nghaerdydd.

"Sa' i'n credu bo 'na lawer o gyfleoedd yma.  Mae'n anodd dychmygu bywyd lle ma' rhywun yn byw yn yr ardal, ond yn cael gwaith o ansawdd, lle ma'n gyfleus, lle na fydde fe'n haws i symud i Gaerdydd."

Wrth adael Merthyr, mae Dan yn gweld criw Newyddion S4C gyda chamera ac yn dod draw.  Dyw e ddim yn gwybod lle bydd e’n cysgu heno.

"Dwi wir yn dioddef ar hyn o bryd," mae’n dweud.

"Dwi’n dioddef o iselder ac ADHD ac yn byw ar £300 y mis ar hyn o bryd."

Pan ofynnwyd iddo sut mae’n ymdopi, mae ei ateb yn syml.

"Dydw i ddim, mêt."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.