
'Byw mewn gofid' wedi sawl gwrthdrawiad yn Y Rhondda

Mae sawl un o drigolion tref Glynrhedynog yng Nghwm Rhondda Fach yn "bryderus iawn" am nifer y gwrthdrawiadau sy'n digwydd rhwng Ffordd y Gogledd a Stryd Richard yn y gymuned.
Mae trigolion yn dweud eu bod nhw’n teimlo bod y damweiniau hyn o ganlyniad i yrru'n beryglus, gyrru’n rhy gyflym a gyrru dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol.
Yn ôl un o'r bobl leol, Lynda Lewis, mae gyrwyr yn "gwibio heibio" ei ffenestr ar y briffordd. Mae hi hefyd wedi cael ei deffro sawl tro oherwydd sŵn y gyrwyr.
"Ni'n byw mewn gofid bob dydd ar y priffyrdd yma. Mae'n fy ngwneud i'n bryderus, ac mae angen rhywbeth i ddigwydd,” meddai Lynda.
"Roedd dwy ddamwain fawr yn ystod y tair wythnos diwethaf ar y darn o ffordd rhwng Ffordd y Gogledd a Theras Morris, gyda naw car yn cael eu dinistrio.
“Dyw hynny ddim yn cynnwys y nifer o ddamweiniau eraill sydd wedi digwydd yn ystod y misoedd diwethaf. Ni'n teimlo'n anniogel a heb gael unrhyw atebion."
Mae pobl y gymuned yn teimlo mai ateb priodol i'r damweiniau hyn fyddai i'r cyngor osod camerâu cyflymder cyfartalog ar hyd y ffordd.
Dywedodd Lynda: "Ni eisiau bod yn gyfartal â'r cymoedd eraill. Mae Pen-rhys a Threcynon wedi cael camerâu cyflymder cyfartalog wedi'u gosod. Dydyn ni ddim eisiau gorfod deffro i farwolaeth er mwyn i rywbeth gael ei wneud am hyn."
Ceir trigolion yn cael eu dinistrio
Fe wnaeth person arall sydd yn byw yn yr ardal ddisgrifio ei silffoedd ffenest yn "crynu" wrth i'r gyrwyr fynd heibio. Mae ei gar wedi cael ei "ddinistrio" ar sawl achlysur ar y priffyrdd yma o achos damweiniau meddai.
Dywedodd: "Dwi jyst yn rhwystredig. Dwi'n pryderu am farwolaethau. Ni wedi gweld yma yn y gymuned y dinistr mae'r damweiniau hyn yn achosi i deuluoedd.
“Gallwch weld cyn lleied y mae'r awdurdodau yn poeni am ein cwm ni sydd wedi ei anghofio. Roedd yna ddamwain ddydd Sadwrn ac roedd car gafodd ei ddinistrio dal ar y briffordd ddydd Mercher, yn cwympo'n ddarnau."
Yn ôl rhai o'r trigolion, pan oedden nhw wedi holi’r heddlu lleol am y materion hyn yr ateb y cafon nhw oedd nad oes modd gwneud unrhyw beth tan fod marwolaeth.
.

Mae pobl leol hefyd yn dweud eu bod wedi apelio i'r awdurdod lleol, “heb unrhyw ymateb” hyd yn hyn.
Dywedodd Buffy Williams, Aelod Seneddol ar gyfer y Rhondda: “Mae gyrru’n rhy gyflym ar hyd y rhan yma o'r ffordd wedi bod yn broblematig am gyfnod rhy hir. Mae'r trigolion yn rhwystredig iawn, gyda rhai yn colli nifer o geir.
“Mae angen adolygiad brys ar feini prawf presennol Gan Bwyll Cymru. Mae aros am farwolaethau cyn cynyddu gorfodaeth yn annerbyniol, ac nid yw'r adolygiadau sy’n cael eu cynnal bob amser yn adlewyrchiad cywir o'r traffig ar ein ffyrdd.
“Fy un ple yw i ni gyd gymryd cyfrifoldeb personol, rydyn ni'n gwybod pan rydyn ni'n gyrru’n rhy gyflym, felly gadewch i ni roi diwedd arni."
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: "Mae Heddlu De Cymru yn ymwybodol o'r pryderon sydd gan drigolion Glynrhedynog. Mae cyflymder yn un o'r pump angheuol - pum prif achos gwrthdrawiadau ac anafiadau traffig ffyrdd yng Nghymru. Rydym yn annog gyrwyr yn yr ardal i arafu a chadw at derfynau cyflymder.
"Mae swyddogion yn gweithio gyda'r awdurdod lleol sy'n gyfrifol am derfynau cyflymder a mesurau gostegu traffig i hyrwyddo gyrru mwy diogel yng Nghymru ac i wella diogelwch ar y ffyrdd."