
Cyfle i arddangos gwleidyddiaeth Cymru i'r byd mewn Cynhadledd Ieuenctid
Cyfle i arddangos gwleidyddiaeth Cymru i'r byd mewn Cynhadledd Ieuenctid
Bydd Cynhadledd Ieuenctid y Gymanwlad yn cael ei chynnal yn Nhrinidad a Tobago ar ddiwedd mis Tachwedd, ac mae'n gyfle i arddangos gwleidyddiaeth Cymru i'r byd, yn ôl un sydd yn mynychu.
Mae Betsan Angell o Gaernarfon yn gyn-aelod Senedd Ieuenctid Cymru, ac yn un o ddau sydd yn mynychu'r gynhadledd ar 24 Tachwedd.
Mae'r gynhadledd yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddod at ei gilydd i drafod materion cyfoes a phrofi amgylchedd y byd gwleidyddol a llywodraethol, ac mae Betsan yn edrych ymlaen at deithio i Drinidad a chwrdd â phobl newydd.
"Bydd hi'n neis cael allan o'r bubble gwleidyddol y Deyrnas Unedig, achos y ffordd mae'n mynd ar y funud 'da ni'n eitha' caeedig i beth 'da ni'n trafod, yn enwedig gyda'r ffordd mae San Steffan yn mynd," meddai.
"Felly bydd cael mynd i rywle rhyngwladol a trafod gyda pobl eraill o wledydd eraill am faterion cyfoes sy'n effeithio pawb, dwi'n meddwl fydd hwnna'n neis.
"Dwi'n gobeithio cal cwrdd â lot o bobl newydd a cael persbectif newydd allan o'r cyfla, a dwi'n gobeithio fedrai dod 'nôl efo syniada' a gwelediad gwahanol o'r byd."
Ieithoedd lleiafrifol â'r Gymraeg
Bu rhaid i Betsan ymgeisio i gael mynd i Drinidad, a hynny trwy lenwi ffurflen gais, llunio CV a chreu fideo yn dweud pam y dylai hi gael ei dewis.
Un o'r materion wnaeth Betsan uwcholeuo oedd y ffaith bod y Gymraeg yn un o nifer o ieithoedd lleiafrifol a fydd yn cael eu siarad gan y rheiny fydd yn mynychu'r gynhadledd.
Credai bod modd trafod y materion o bersbectif ieithoedd lleiafrifol, wrth drafod Cymru a'r Senedd ym Mae Caerdydd hefyd.
"Neshi uwcholeuo'r manteision o'r ffaith bod fi'n neud gradd mewn Cymraeg a bod Senedd Ieuenctid y Gymanwlad am fod llawn o ieithoedd lleiafrifol. A ma' 'na lot mwy allen ni drafod o'r persbectif yna a'i droi o'n wleidyddol," meddai.

"Bydden ni yn trafod Mark Drakeford a fydden ni yn trafod pwy sydd gynna' ni yn y Senedd a be' ma' nhw'n neud i ni a sut bo' ni'n gwahanol i Lloegr.
"Mi fydd 'na lot o wledydd eraill hefyd fydd yn yr un sefyllfa, gwledydd llai bydd pobl ddim yn ymwybodol o'u seneddau nhw, sut mae o'n gweithio a pha mor wahanol 'dio i i wledydd eraill o'u gwmpas nhw."
Adeiladu ar brofiadau bythgofiadwy
Roedd Betsan yn un o aelodau cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru, ac yn cynrychioli Gogledd Caerdydd rhwng 2018 a 2021.
Mae hi nawr yn gyn-aelod, ond wedi dysgu llawer a chreu atgofion oes tra oedd yn rhan o'r Senedd Ieuenctid. Mae hi'n gobeithio ategu at yr atgofion hynny yn ei hamser yn Nhrinidad.
"Dwi'n meddwl bod siarad yn gyhoeddus yn sgil hanfodol dyddiau 'ma hefyd a mi fydd trafod mewn siambr swyddogol yn Trinidad hefyd yn cyfle i gwbod sut i siarad gyda cynulleidfa penodol," ychwanegodd.
"Pan o'n i yn Senedd Ieuenctid neshi wir mwynhau cael cwrdd â pawb, cal siarad efo pawb a cal clywad barn pawb ar bethau. O'dd cal bod yn y siambr yn profiad anhygoel, bythgofiadwy i fod yn onast."