'Llywodraeth y DU wedi cynnig datganoli S4C i Gymru'
'Llywodraeth y DU wedi cynnig datganoli S4C i Gymru'
Fe wnaeth Llywodraeth y DU gynnig datganoli S4C i Gymru, yn ôl cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Wrth siarad ar raglen Hawl i Holi ar BBC Radio Cymru nos Iau, dywedodd Mr Jones fod Jeremy Hunt, a oedd yn Ysgrifennydd dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon rhwng 2010 a 2012, wedi cynnig datganoli darlledu S4C i Lywodraeth Cymru, ond "heb y gyllideb a heb geiniog."
Pe bai'r arian wedi cael ei gynnig, dywedodd Prif Weinidog Cymru rhwng 2009 a 2018 y byddai wedi cytuno i ddatganoli'r sianel.
"Os byddai ffynhonell gynaliadwy wedi bod ar gael, pam fydden ni ddim wedi cymryd e? Ond doedd 'na ddim, a 'na beth oedd y broblem," meddai Mr Jones.
Ychwanegodd ei bod hi'n "ddigon rhwydd i Lywodraeth San Steffan i ddweud fod hon yn sianel Gymraeg, felly chi ddyle redeg hi, ond heb yr arian, heb unrhyw geiniog i roi mewn i'r gyllideb, dyw e ddim yn realistig."
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU ei bod hi'n "gwneud synnwyr bod polisi darlledu clir a chyson yn cael ei redeg yn genedlaethol gan Lywodraeth y DU fel y gall pobl cenedl a rhanbarth gadw'r buddsoddiad mawr a'r manteision net y mae'n gynnig.
"Rydym wedi ymrwymo i barhau i gefnogi rôl hollbwysig S4C wrth warchod yr iaith Gymraeg a'i diwylliant a'r economi, gan gynnwys trwy setliad cyllid cryf."