Wcráin: Zelensky yn cyhuddo Rwsia o 'derfysgaeth ynni'

Mae Arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky wedi cyhuddo’r Kremlin o droi at “derfysgaeth ynni” wrth i filwyr Rwsia ennill tir.
Dywedodd Mr Zelensky fod 4.5 miliwn o bobl heb bŵer yn dilyn ymosodiadau gan Rwsia ar ei rhwydwaith ynni.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Rwsia wedi cynnal ymosodiadau taflegrau a dronau ar raddfa fawr ar gyfleusterau pŵer Wcráin.
Mae llywodraeth Wcráin yn annog y boblogaeth i geisio defnyddio ynni’n gynnil o ganlyniad.
“Heno, mae tua 4.5 miliwn o ddefnyddwyr wedi’u datgysylltu dros dro o’r defnydd o ynni,” meddai’r Arlywydd Zelensky yn ei anerchiad nos Iau.
Rhagor yma.