Pobl ifanc yn poeni am ddyfodol ieithoedd lleiafrifol

Pobl ifanc yn poeni am ddyfodol ieithoedd lleiafrifol
Ddydd Sadwrn, 30 Hydref, fe wnaeth Cymru gynnal ei chynhadledd ELEN (European Language Equality Network) gyntaf yng ngwesty Mercure, Caerdydd.
Fe wnaeth pobl ifanc ymgasglu o wledydd ledled Ewrop, gan gynnwys Cymru, Gogledd Iwerddon, Yr Alban, a Chatalonia, i drafod eu gobeithion a’u pryderon ynghylch dyfodol eu hieithoedd lleafrifol.
Mae ELEN yn gorff o fudiadau gwahanol ar draws Ewrop sy’n cynrychioli ymgyrchwyr ieithoedd lleiafrifol.
Dywedodd Elena Jimenez o Omnium, Catalonia: “Daw'r rhwystr i'r iaith Gatalaneg yn bennaf o'r cenedlaetholdeb Sbaenaidd, oherwydd maen nhw eisiau dim ond un iaith yn Sbaen”
Mae Elena hefyd yn gallu cymharu ei phrofiad gyda’i hiaith leiafrifol â sefyllfa ieithoedd tebyg yn y DU.
“Rhwystr arall i'r iaith Gatalaneg hefyd yw'r ffaith fod yr iaith mor wan. Mae Sbaeneg a hefyd Saesneg yn ieithoedd sy'n oruwch ac yn bresennol iawn trwy, er enghraifft, rwydweithiau cymdeithasol ac mewn prosiectau clywedol-gweledol, ac yn y blaen.”
Un iaith leiafrifol sy’n wynebu rhwystrau a heriau ar yr ynysoedd Prydeinig yw’r iaith Wyddeleg, o gymharu â’r iaith Saesneg sydd yn iaith fwy cyffredinol i’r gwledydd.
Dywedodd Pádraig Ó Tiarnaigh, o Ogledd Iwerddon: “Mae'r iaith Wyddeleg yn rhan bwysig iawn o’m bywyd. Yn hanesyddol, mae'r iaith Wyddeleg wedi cael ei gwahardd, ei gwthio i'r cyrion, o Ogledd Iwerddon, ac ar draws yr ynys.
“Rydyn ni'n falch iawn o ddweud ein bod ni wedi cyrraedd carreg filltir hanesyddol drwy gael bil yr iaith wedi’i basio yn Nhŷ’r Cyffredin yn ystod yr wythnosau diwethaf.”
Roedd Bethan Ruth wedi ymuno yn y gynhadledd fel cynrychiolydd o Gymdeithas yr Iaith. Mae hi’n teimlo, er bod yr iaith Gymraeg mewn lle da, bod yna fodd i wella hefyd.
Dywedodd Bethan: “Mae’r iaith Gymraeg mor bwysig i mi, mae’n rhan o fy hunaniaeth.
“Mae ‘na lot o rwystrau o rhan yr iaith Gymraeg. Mae gennym ni yma yng Nghymru hawliau a chomisiynydd y Gymraeg, ond bydd hi’n dda os bydd safonnau yn cael eu cymryd i’r sector preifat.
“Mae ‘na sawl maes sydd yn heriol i ddyfodol yr iaith Gymraeg: addysg Gymraeg i bob ardal, cyfryngau Cymraeg, y sector preifat er enghraifft.”
“Roedd siarad yn y gynhadledd yn rhoi real gobaith imi a theimlad o gyfeillgarwch rhyngwladol a sylweddoli nad ydyn ni’n ddieithriaid yn byw ar ynys ynghanol n’unlle yn siarad iaith odd ma, ni’n rhan o wê o ieithoedd rhyngwladol, ac mae’n ein cyfoethogi ni.”
Bydd cynhadledd ELEN flynyddol nesaf yn cael ei chynnal yn Cagliari, Sardinia ym mis Medi 2023.