Creu 100 o swyddi newydd mewn canolfan wyddonol yn Llanberis
Bydd adran newydd mewn canolfan ar gyfer technoleg gofal iechyd yn agor gan greu bron i 100 o swyddi newydd yn Llanberis yng Ngwynedd.
Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, bydd Siemens Healthineers yn agor canolfan fydd yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu mewn gofal iechyd, gan sicrhau swyddi hirdymor.
Mae Siemens Healthineers wedi bod yn bresennol ar y safle 36 erw yn Llanberis ers 1992.
Yn sgil y buddsoddiad, bydd y ganolfan yn creu bron i 100 o swyddi newydd ac yn diogelu 400 o swyddi.
Bydd y priosect hefyd yn sicrhau y bydd y safle yn parhau y tu hwnt i 2030.
Mae'r rhan fwyaf o'r gweithwyr yn byw o fewn 10 milltir i'r ganolfan yn Llanberis.
Bydd y priosect hefyd yn parhau i gryfhau partneriaethau gyda Phrifysgolion Bangor, Abertawe a Chaerdydd.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, fod "Siemens Healthineers yn Llanberis yn gyflogwr strategol bwysig ar gyfer y gogledd cyfan, ac mae'r buddsoddiad hwn yn dangos yr hyder enfawr yn economi Cymru.
"Mae'r contract economaidd rydyn ni wedi ei lofnodi gyda Siemens Healthineers yn diogelu'r cyfleuster ar gyfer y dyfodol, yn sefydlu cyfleuster arloesol ar gyfer ymchwil a datblygu, yn addo gwaith teg ac amgylchedd gweithio cynhwysol am ddegawdau lawer."
Yn ôl Is-lywydd a Rheolwr Gyfarwyddwr y safle yn Llanberis, yr Athro Fraser Logue, bydd "bron 100 o swyddi ar gyfer gweithwyr medrus iawn yn cael eu creu, wrth inni wireddu ein huchelgais cyffredin i drawsnewid Siemens Healthineers yn Llanberis yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer gweithgynhyrchu ac ymchwil a datblygu ym maes diagnosteg labordy."
Dywedodd Aelod y Senedd dros etholaeth Arfon, Siân Gwenllian, fod hyn yn "newyddion gwych i'r ardal gyfan, ac i'w groesawu'n fawr yng nghanol yr holl ddiflastod economaidd presennol. Mae gan Lanberis hanes hir o arloeseddedd gan gynnwys yn y diwydiant llechi yn ogystal â phŵer trydan dŵr."
Ychwanegodd Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, bod "y cyhoeddiad hwn yn gam sylweddol ymlaen i Siemens ac yn nodi buddsoddiad sylweddol arall gan y cwmni yn yr economi leol, gan ddod â thua chant o swyddi medrus i'r ardal - buddsoddi a chreu cyflogaeth ar adeg pan mae ein heconomi yn mynnu cefnogaeth.'