Newyddion S4C

'Diffyg gofal arbenigol Parkinson's yng Nghymru'

Newyddion S4C 03/11/2022

'Diffyg gofal arbenigol Parkinson's yng Nghymru'

Mae elusen sydd yn cynrychioli'r rhai sydd yn byw gyda'r cyflwr niwrolegol sydd yn tyfu gyflymaf yn y byd wedi beirniadu diffyg gofal arbenigol yng Nghymru.

Yn ôl Parkinson's UK Cymru, mae gofal i'r rheiny sydd yn byw gyda Parkinson's yng Nghymru yn "loteri".

Maen nhw'n dweud bod tua 7,600 yn byw gyda'r cyflwr drwy'r wlad, a bod 23 o nyrsys llawn amser ar gael i gynnig gofal arbenigol iddyn nhw.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn bwriadu cyhoeddi Datganiad Ansawdd ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol fis nesaf.

Cyflwr sydd yn effeithio ar yr ymennydd yw Parkinson's. Mae'n amharu ar allu'r ymennydd i greu cemegyn dopamine, a hynny yn lleihau gallu'r corff i reoli symudiad.

Does dim meddyginiaeth ar hyn o bryd all gynnig gwellhad llwyr i'r cyflwr.

Un sydd yn byw gyda'r cyflwr yw'r cyn chwaraewr rygbi a thad i ddau, Antony Evans, a gafodd ddiagnosis yn 42 oed.

Image
S4C

Mae'n dweud bod diffyg ymwybyddiaeth o'r cyflwr - hyd yn oed ymysg meddygon.

Darganfyddwyd ei gyflwr saith mlynedd yn ôl, tra'i fod e'n paratoi am lawdriniaeth ar ei gefn oeddd ddim yn gysylltiedig â'r cyflwr.

"Methodd physios a doctoriaid eraill y cyflwr oherwydd fy oedran. Mae angen i ddoctoriaid wybod am hyn - gall pobl dan 40 gael Parkinson's."

"Ges i ymarferion i'w gwneud fel karate kid - 'wax on, wax off' - roedd gyda fi ffenestri glan iawn, ond doedd dim pwwrpas iddyn nhw."

"Doedd neb wedi ystyried Parkinson's am fy mod i'n 42 oed."

Yn y 90'au hwyr a degawd gyntaf y ganrif hon, roedd Antony'n chwarae yn yr ail reng i dim enwog Caerffili, a sicrhaodd ddyrchafiad am 10 tymor yn olynol.

Roedd yn rhan o'r garfan sicrhaodd fufddugoliaeth enwog yn Ffrainc (gem Ewropeaidd enillodd Caerffili o 31 pwynt i 20 yn Racing Club de France yn 1998) a chwaraeodd yn erbyn rhai o gewri'r gêm mewn gemau Ewropeaidd yn erbyn Pau, Brive a Perpignan.

Ond mae cyflwr Parkinson's wedi gwneud bywyd yn anodd i un fu'n athletwr cryf a chorfforol.

"Roeddwn i dros 18 stone, fi nawr yn 13 stone. Mae hwnna'n cymryd dy hyder bant. Mae'n cymryd dy gryfder corfforol."

"Ti'n colli bach o hyder, a'r teimlad ti gallu amddiffyn dy deulu."

Mae'n dweud ar rai boreau bod y cyflwr yn gwneud tasgau syml fel brwsio ei ddannedd yn anodd. Ac mae'n dweud bod diffyg datblygiad o ran dealltwriaeth a thriniaethau Parkinson's.

"Mae Parkinson's yn rheoli fi ar hyn o bryd. Os yw'r meddyginiaeth ddim yn gweithio, fi ffili gwneud lot. Mae hynny'n anodd iawn i ddelio a fe."

Mewn ymdrech i wella ymwybyddiaeth am y cyflwr, mae Antony ac eraill wedi ail-frandio tîm pêl-droed yng Nghaerdydd ar gyfer pobl sydd yn byw gyda'r cyflwr.

Bob nos Lun, mae Phoenix 681 FC yn cwrdd i ymarfer. Mae'r chwaraewyr oll yn byw gyda, neu wedi eu heffeithio gan Parkinson's.

Sbardun y rhif 681 yn yr enw yw mai dyna rif cemegyn dopamine - sydd yn brin yn rheiny sydd yn byw gyda Parkinson's.

Image
S4C

Mae dau bwrpas i'r tim, gyda arbenigwyr yn argymell ymarfer corff i helpu rheoli symptomau. Mae hefyd yn gyfle i'r rhai sydd yn byw gyda neu'n cefnogi rhywun sydd â Parkinson's i drafod a chefnogi eraill mewn sefyllfa debyg.

Wrth ymateb i alwadau Mr Evans, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fis nesaf, byddwn yn cyhoeddi Datganiad Ansawdd ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol sy'n nodi'r canlyniadau a'r safonau rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd eu cyflawni wrth ddarparu'r gwasanaethau hynny.

"Fis diwethaf fe wnaethom gyhoeddi fframwaith adsefydlu newydd sy'n nodi sut y gall byrddau iechyd fodloni'r galw cynyddol am wasanaethau adsefydlu, ailalluogi ac adfer. Yn ogystal, rydyn ni'n ariannu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy'n cynnig grantiau ar gyfer ymchwil feddygol yng Nghymru ac rydyn ni hefyd wedi cefnogi treialon clinigol i Parkinson."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.