'Gwn wedi ei danio' ger confoi cyn-brif weinidog Pakistan

Mae adroddiadau bod gwn wedi tanio ger confoi cyn-brif weinidog Pakistan, Imran Khan, yn nwyrain y wlad ddydd Iau.
Yn ôl rhai adroddiadau, cafodd Khan ei saethu yn ei goes ac mae ei gefnogwyr wedi ei alw'n fwriad i'w lofruddio.
Mae Khan yn arwain gorymdaith brotest i alw am etholiadau o'r newydd.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Fforwm Economaidd y Byd / Valeriano Di Domenico