Los Blancos yn rhyddhau cân S4C ar gyfer Cwpan y Byd
Mae'r band Los Blancos wedi ysgrifennu cân arbennig ar gyfer S4C er mwyn dathlu taith hanesyddol Cymru i Gwpan y Byd.
O'r enw 'Bricsen Arall', mae'r gân yn cyfeirio at gefnogwyr brwd y Wal Goch yn aros am yn hir i weld Cymru yn cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol mwyaf unwaith eto.
Mae'r band o Sir Gaerfyrddin yn ddilynwyr brwd o'r tîm cenedlaethol ac wedi ceisio defnyddio eu hangerdd yn y gân.
Dywedodd Dewi Jones, gitarydd bas Los Blancos, fod y penderfyniad i ysgrifennu cân ar gyfer S4C yn "no brainer."
BRICSEN ARALL! 🏴
— S4C Chwaraeon 🏴 (@S4Cchwaraeon) November 3, 2022
CÂN SWYDDOGOL CWPAN Y BYD S4C! 😍
64 blynedd, 5 mis a 2 ddydd, ond mae @Cymru wedi cyrraedd Cwpan y Byd!
64 years, 5 months and 2 days...but we're back!! 🏴
👉 https://t.co/TRYHvYPujG#Qatar2022 | @blancoslos502 pic.twitter.com/55W7oigEyp
"Ni wedi cael cyfle gwych gan S4C i recordio cân i nodi Cwpan y Byd, a gobeithio caiff e dipyn o sylw," meddai.
"Dwi'n gobeithio fod ffans Cymru yn meddwl fod e'n gân eitha' catchy a bod pobl yn gallu canu ymlaen gyda fe.
"A gobeithio cawn ni berfformio hwn yn y stadiwm pan fydd Cymru yn qualifyio i Gwpan y Byd 2062, fel Dafydd Iwan!"
Bydd y gân ar gael i'w gwrando ar wasanaethau ffrydio poblogaidd fel iTunes, Spotify ac Apple Music a bydd fideo swyddogol yn cael ei gyhoeddi ar sianel YouTube S4C yn ddiweddarach.