Newyddion S4C

I'm a Celeb: Pa wleidyddion arweiniodd y ffordd i Matt Hancock?

06/11/2022
Matt Hancock

Bydd I'm a Celebrity...Get Me Out Of Here yn dychwelyd nos Sul, ac mae disgwyl i gyn-Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Matt Hancock, ymuno â'r cast yr wythnos hon.

Mae Matt Hancock wedi colli'r chwip Ceidwadol o ganlyniad i'w benderfyniad i ymuno â'r gyfres, sy'n golygu ei fod yn gorfod eistedd fel Aelod Seneddol annibynnol.

Ond nid Mr Hancock yw'r gwleidydd cyntaf i fod yn rhan o gyfres realaidd ar hyd y blynyddoedd.

Tybed a fydd yn llwyddo i bara'n hirach yn y jwngl na rhai ddaeth o'i flaen?

Nadine Dorries - I'm a Celebrity (2012)

Image
Nadine Dorries I'm a Celeb

Treuliodd Nadine Dorries gyfnod yn Awstralia yn 2012, ond doedd hi ddim yno'n hir gan mai hi oedd y cyntaf i adael yn dilyn pleidlais gyhoeddus. 

Fel sydd wedi digwydd i Matt Hancock, collodd y chwip Ceidwadol am gymryd rhan yn y rhaglen. 

Ond nid dyna oedd diwedd ei gyrfa wleidyddol o bell ffordd. 

Yn 2013, cafodd y chwip yn ôl ac fe gafodd ei phenodi'n Ysgrifennydd Diwylliant ym mis Medi 2021 gan barhau yn y rôl honno tan i Liz Truss ddod yn Brif Weinidog ym mis Medi eleni.

Mae Ms Dorries wedi cynrychioli etholaeth Canol Swydd Bedford yn Nhŷ’r Cyffredin ers 2005.

Anne Widdecombe - Strictly Come Dancing (2010)

Image
Anne Widdecombe Strictly

Camodd y cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, Anne Widdecombe, i fyd y ddawns yn 2010 ar ôl iddi ymddeol o wleidyddiaeth yn gynharach yn y flwyddyn.

Anton du Beke oedd ei phartner ar y gyfres ac fe gafodd y ddau gryn lwyddiant gan barhau am 10 wythnos er gwaethaf beirniadaeth gan y beirniaid.

Ar ôl cael blas o fyd teledu realaidd, fe ymddangosodd hefyd ar Celebrity Big Brother yn 2018.

Cynrychiolodd etholaeth Maidstone yng Nghaint rhwng 1987 a 2010 ac fe wasanaethodd fel gweinidog yn llywodraeth John Major yn ystod y 1990au.

Gadawodd y Blaid Geidwadol yn 2019 i ymuno â Phlaid Brexit.

Lembit Öpik - I'm a Celebrity (2010)

Image
Lembit Opik

Cynrychioli Sir Drefaldwyn yn Nhŷ’r Cyffredin ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol oedd Lembit Öpik o 1997 tan iddo golli ei sedd yn Etholiad Cyffredinol 2010.

Ar ôl colli, ymunodd â chast I'm a Celebrity...Get Me Out Of Here y flwyddyn honno.

Roedd yn arweinydd ar y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig rhwng 2001 a 2007.

Roedd hefyd yn Llywydd y Dydd yn Eisteddfod Genedlaethol 2003 ym Meifod, ac fe gafodd hyfforddiant ar gyfer ei araith gan ei gariad ar y pryd, y cyflwynydd tywydd Siân Lloyd.

Fe adawodd y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2021 ac yn 2022 roedd yn siaradwr gwadd yng nghynhadledd UKIP.

Ed Balls - Strictly Come Dancing (2016)

Image
Ed Balls

Yn 2016, fe ymunodd y cyn-Ganghellor Cysgodol Ed Balls â Strictly Come Dancing.

Roedd yn bartner i'r dawnsiwr Katya Jones yn ei chyfres gyntaf ar y rhaglen.

Aeth y bartneriaeth yn bell gan gyrraedd y chwech olaf o'r 15 partneriaeth oedd ar ddechrau'r gyfres.

Mae Mr Balls wedi bod yn briod â Yvette Cooper, sef yr Ysgrifennydd Cartref Cysgodol, ers 1998.

Bob blwyddyn, mae Diwrnod Ed Balls yn cael ei gynnal sy'n cofio'r adeg pan wnaeth Ed Balls drydar ei enw ei hun mewn neges ar y cyfrwng cymdeithasol Twitter.

Penny Mordaunt - Splash! (2014)

Image
Penny Mordaunt

Mae Penny Mordaunt wedi bod yn Aelod Seneddol ar etholaeth Llongborth ers 2010.

Ar hyn o bryd, hi yw Arweinydd Tŷ’r Cyffredin ac yn ddiweddar roedd yn un o'r ceffylau blaen i olynu Boris Johnson, ac yna Liz Truss, fel arweinydd y Ceidwadwyr a Phrif Weinidog.

Mae Ms Mordaunt hefyd wedi gwasanaethu yn y cabinet fel Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol ac Ysgrifennydd Amddiffyn.

Ond yn 2014, fe ymunodd â'r gystadleuaeth ddeifio Splash!, lle oedd enwogion yn cael hyfforddiant gan y deifiwr Olympaidd Tom Daley.

Fe ddaeth Ms Mordaunt yn 12fed yn y gyfres allan o 20 cystadleuydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.