Cyhoeddi enillydd Gwobrau Caws y Byd yng Nghasnewydd
Mae enillydd Gwobrau Caws y Byd wedi ei gyhoeddi yng Nghasnewydd nos Fercher, wrth i Gymru gynnal y digwyddiad ar ran Wcráin.
Le Gruyère AOP surchoix yw Pencampwr Caws y Byd 2022, gan y gwneuthurwr caws o'r Swistir Vorderfultigen.
Cafodd yr ornest fawreddog flynyddol ei chynnal yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yn hytrach na Kyiv eleni, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Dyma'r digwyddiad caws-yn-unig mwyaf yn y byd, sydd bellach yn ei 34ain blwyddyn o fodolaeth.
Mae'r rhyfel yn parhau yn Wcráin yn dilyn ymosodiad Rwsia ar y wlad ym mis Chwefror.
O ganlyniad i'r rhyfel yno, mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu symud o'r wlad, gyda'r gystadleuaeth gerddoriaeth Eurovision hefyd yn cael ei chynnal yn y Deyrnas Unedig flwyddyn nesaf ar ran Wcráin.