Newyddion S4C

Costau byw: Pentref yng Ngwynedd yn cynnig 'Llond Bol' o fwyd

Newyddion S4C 02/11/2022

Costau byw: Pentref yng Ngwynedd yn cynnig 'Llond Bol' o fwyd

Roedd mis Hydref yn fis anodd i bobl wrth iddyn nhw brynu bwyd ac yn ôl y corff sydd yn cynrychioli siopau bwyd, mae disgwyl i bethau waethygu.

Ond yn dilyn y rhybudd gan Gonsortiwm Manwethru Prydain, mae aelodau o gymuned Penygroes yng Ngwynedd wedi mynd ati i sefydlu cynllun newydd i helpu pobl yno.

Yn sgil y cynnydd ym mhrisiau nwy a chynhwysion bwyd, mae mwy o bobl erbyn hyn yn chwilio am gymorth a bwriad cynllun Llond Bol yw estyn llaw i'r gymuned.

Yn y pentref ger Caernarfon, mae prydau bwyd yn cael eu cynnig i bobl a hafan gynnes i gymdeithasu â'i gilydd.

Yn ôl Harley Fix, un o'r gwirfoddolwyr, mae'r cynllun yn "dod â'r gymuned at ei gilydd".

"Ma' lot o bobl yn stryglo ar hyn o bryd efo'r cost of living crisis," meddai.

"Ma'n ffordd i dod allan i gael bwyd heb talu lot.  Mae'n neis dros y gaeaf i bobl sydd isio dod allan o'r tŷ i gaael ychydig o gymuned a weld pobl lleol eraill."

Ychwanegodd Llio Wyn, sydd hefyd yn gwirfoddoli â'r fenter: "Ma'n gyfnod anodd lle ma' lot o bobl yn stryglo felly mae o'n rywbeth sy'n cael ei gynnal am nifer o wahanol resymau.

"Dim jyst i bobl sy'n ffeindio hi'n anodd i dalu biliau, neu cynhesu tai, ond ffordd i gael bobl at i gilydd i gymdeithasu ella os ma' pobl yn teimlo'n unig.  Mae o i bob oed i ddod a pawb at i gilydd."

Pythefnos yn unig sydd ers ei sefydlu ond mae rhieni sy'n ei ddefnyddio yn barod yn ei weld fel adnodd pwysig i'r gymuned.

Gyda chostau byw yn parhau i godi a'r rhybudd am gyfnod anodd ar y gorwel, mae disgwyl y bydd cynlluniau fel Llond Bol yn chwarae rôl fwy blaenllaw ym mywydau mwy o bobl.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.