Newyddion S4C

Dŵr yn gollwng 'ar bobl a'u heiddo' ar drên Trafnidiaeth Cymru

Dŵr yn gollwng 'ar bobl a'u heiddo' ar drên Trafnidiaeth Cymru

Mae dŵr yn gollwng ar un o drenau Trafnidiaeth Cymru ddydd Mercher ar ôl glaw trwm.

Yn ôl adroddiadau, roedd y dŵr yn gollwng "ar bobl a'u heiddo" ar y trên 17:04 o Gaerdydd Canolog i Gaerfyrddin.

Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion yn parhau mewn grym ar draws siroedd gorllewinol a gogledd-orllewinol tan yn hwyr nos Fercher.

Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru eu bod yn ymwybodol o ollyngiad dwr ar un o'u gwasanaethau "yn dilyn cyfnod estynedig o law trwm".

Ychwanegodd y llefarydd y byddan nhw'n ei "atgyweirio cyn gynted â phosib" ac maen nhw wedi ymddiheuro i'r cwsmeriaid sydd wedi eu heffeithio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.