Cyfrifiad 2021: Caerdydd yw'r sir 'ieuengaf' yng Nghymru

Newyddion S4C 02/11/2022

Cyfrifiad 2021: Caerdydd yw'r sir 'ieuengaf' yng Nghymru

Caerdydd yw'r sir "ieuengaf" yng Nghymru, yn ôl ystadegau diweddaraf y Cyfrifiad.

Gyda'i phoblogaeth fawr o fyfyrwyr, mae gan y brifddinas oedran canolrifol ieuengaf o 34 oed.

Ar ddiwrnod y Cyfrifiad ar 21 Mawrth 2021, Powys oedd â'r sir â'r oedran hynaf ar gyfartaledd, sef 50 oed.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n gyfrifol am y Cyfrifiad bob 10 mlynedd, yr oedran canolrifol yw oedran y person yng nghanol y grŵp.

Yn Sir Gaerfyrddin, mae'r oedran canolog yn 46 oed ac ar Ynys Môn, roedd yn 48 oed.  Ar draws Cymru, roedd yr oedran canolrifol yn 42, ychydig yn hŷn na Lloegr, sydd yn 40.

Atyniad Caerdydd i'r to ifanc

I Annell Dyfri, sy'n dod o Gaerfyrddin yn wreiddiol ac yn gwneud cwrs ôl-radd ym Mhrifysgol Caerdydd, mae'r atyniad i'r ddinas yn amlwg.

"Fi'n credu bod e'n bach o balans rhwng y bywyd cymdeithasol, y swyddi sy' gael 'ma, a hefyd jyst y brifddinas," meddai.

"Fi'n credu bod 'na pethe fel y parciau 'ma hefyd, ma' bywyd yn eitha' neis yng Nghaerdydd, a ma' popeth chi eisiau yma.  Dyw e ddim yn rhy fawr, a dyw e ddim rhy bell o adre' i fi beth bynnag. Ond, fi'n credu ma'n lle da i gychwyn gyrfa."

Mae Iwan Kellett o Ynys Môn, ac yn astudio gradd mewn Cemeg, mae e'n dweud nad oes cyfleoedd iddo 'nôl adref o ddod o hyd i swydd yn y maes.

"Ma'r swyddi ar gael o fewn cemeg, does 'na ddim llawer ohonyn nhw adra.  Yn enwedig rhai fysa yn gallu rhoi cyfle i prynu tŷ adra efo'r argyfwng ail tai," meddai.

Roedd Lois Campbell, sydd hefyd o Sir Gaerfyrddin, yn cytuno.  Ond mae'n teimlo rhywfaint o bwysau a dyletswydd hefyd i symud 'nôl i'w milltir sgwâr rhyw dro.

"Ma'n gwestiwn eitha' anodd, achos fi wastad 'di bod yn rhywun sy'n lico bod gartre'.  Felly, fi'n gallu gweld y'n hunan yn byw gartre', 'na beth ddwlen i 'neud," meddai.

"Ond, fel rhywun sy'n gobeithio mentro i'r byd newyddiaduraeth neu byd cyfryngau, does dim y cyfleoedd hynny i gael cymaint 'nôl yn Sir Gâr a nôl yn y gorllewin â be' sydd gael yma yng Nghaerdydd."

Ac i Deio Owen, o Ben Llŷn, mae bywyd Cymraeg y brifddinas yn atyniad hefyd.

"Fi'n teimlo gan bod y Gymraeg mor fyw yma yng Nghaerdydd, dwi ddim yn teimlo bod angen bod ym Mhen Llŷn neu be' bynnag er mwyn byw bywyd yn Gymraeg, dwi'n gallu cymdeithasu, dwi'n gallu siarad efo teulu, siarad efo ffrindiau yn Gymraeg," meddai.

"Yn sicr, ma' gymdeithas Pen Llŷn yn wahanol i Gaerdydd, heb ei os.  Ond ma'r syniad 'da chi angen aros ym Mhen Llŷn neu yn Ogledd Cymru er mwyn gael cymdeithas a ffeindio Cymraeg, dwi'n meddwl rŵan ma' hynny yng Nghaerdydd, ma' twf yn y Gymraeg 'di digwydd."

Ffigurau ar fudo ac amddifadedd

Yn ogystal ag oedran, yn y gyfres ddiweddaraf o ganlyniadau'r Cyfrifiad, roedd canolbwyntio hefyd ar amddifadedd a mudo.

Mae Cymru yn wlad llai difreintiedig heddiw nag oedd hi 10 mlynedd yn ôl.

Yn ôl y data diweddaraf, mae 54.1% o gartrefi yn cael eu hystyried yn ddifreintiedig o ran ffactorau fel addysg, iechyd, anabledd a diffyg gwaith.

'Nôl yn 2011, roedd y canran hwnnw yn uwch, sef 61% o gartrefi.

Canlyniad arall yw'r cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n byw yng Nghymru gafodd eu geni y tu allan i'r Deyrnas Unedig - cynnydd o 28.3%.

Roedd y nifer uchaf o Wlad Pwyl, sef 0.8% o'r boblogaeth gyffredinol.

Ac fe gynyddodd nifer y bobol yng Nghymru a nododd Rwmania fel eu gwlad genedigol bron i bum gwaith (+469.9%) rhwng 2011 a 2021, ar ôl i'r cyfyngiadau gweithio godi yn 2014.

Bydd rhaid aros ychydig dros fis eto, cyn y daw'r ystadegau ar faint sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru, gyda disgwyl y rheini cyn diwedd y flwyddyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.