Newyddion S4C

Teyrnged i fachgen 18 oed fu farw mewn gwrthdrawiad

02/11/2022
Morgan OSBORNE

Mae teulu bachgen 18 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf wedi rhoi teyrnged iddynt. 

Bu farw Morgan Osbourne yn dilyn y gwrthdrawiad ar yr A4093 yn Hendreforgan, Gilfach Goch.

Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu fod "Morgan yn golygu bob dim, roedd e nid yn unig yn fab, ond yn ffrind gorau.

“Roedd yn gariadus ac yn ofalgar ac yn gwneud unrhyw beth i unrhyw un. Mae'n anodd cyfleu faint 'yn ni wedi digalonni a faint roedd ef yn ei olygu i ni. Roedd Morgan mor ddoniol ac yn gwneud i ni chwerthin.

"Roedd ganddo grŵp o ffrindiau da, roedd nifer yn y gymuned yn ei adnabod ac roedd pawb yn hoff ohono. Bydd pawb oedd yn ei adnabod yn ei golli."

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad rhwng Ford Fiesta lliw gwin a Nissan Qashqai arian.

Maen nhw'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200338805.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.